Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn croesawu cynnig i ariannu gorsaf fysiau
- Categorïau : Press Release
- 16 Mai 2019

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi croesawu’r ‘newyddion cyffrous’ am gynnig Llywodraeth Cymru o £10m i ariannu gorsaf fysiau newydd canol y dref.
Mae Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates AC wedi cymeradwyo cais Cronfa Drafnidiaeth Leol y Cyngor i ddechrau gwaith ar yr orsaf yn ystod y flwyddyn galendr hon.
“Mae’r cais dros gyfnod o ddwy flynedd â £3.6million yn 2019/20 a £6.5m yn 2020/21 a gwnaethom ni dderbyn llythyr swyddogol heddiw (dydd Iau 16 Mai 2019),” dywedodd Prif Swyddog dros Adfywio Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Alyn Owen.
“Yn dilyn y newyddion cyffrous hwn, rydym bellach yn symud tuag at ddyfarnu contract, gyda’r golwg o ddechrau’r gwaith ryw bryd dros yr ychydig fisoedd nesaf. Byddwn yn rhoi gwybod i breswylwyr am y diweddaraf ar hyd pob cam o’r daith.”
Bydd datblygiad yr orsaf fysiau’n cydweddu’n sylweddol â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.
“Mae’r Cyngor yn gweithio â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Thasglu’r Cymoedd ar gynllun meistr i sicrhau bod y buddsoddiadau newydd i fysiau a’r rheilffordd yn creu ateb integredig i drafnidiaeth fel rhan o gam newydd adfywio canol tref Merthyr Tudful a’i chymunedau ehangach,” ychwanegodd Alyn Owen.