Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cynghorydd Howard Barrett, Maer Merthyr Tudful 2019/20

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 24 Mai 2019
Screenshot 2019-05-24 at 10.54.20

Cafodd y Cynghorydd Howard Barrett er urddo fel Maer Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer 2019/20 ddydd Mercher 15 Mai 2019.

Mae Howard wedi cynrychioli Ward Etholiadol y Faenor ers 2008 ac mae’n byw yng Nghefn Coed. Mae ganddo un mab, Wayne, sy’n byw yn Awstralia gyda’i wraig a’i ddau blentyn; mae ganddo wyres hefyd o’r enw Darcy sy’n byw yn Nhroedyrhiw, a bydd hithau’n gwmni swyddogol iddo ar rai o’i ymweliadau fel Maer.

Ganwyd Howard yn Nhrefechan ac aeth i Ysgol Y Graig ac Ysgol y Faenor a Phenderyn cyn mynychu Colegau Merthyr Tudful, Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Gweithiodd Howard yn Chwarel y Faenor am 25 mlynedd ac mae’n byw yng Nghefn Coed. Mae’n aelod o Fforwm y Faenor a Grŵp Cymunedol Pontsticill.

Fel Prif Ddinesydd Merthyr Tudful, mae dyletswyddau’r Cynghorydd Barrett yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor a chynrychioli’r Cyngor mewn achlysuron ffurfiol a seremonïol yn y Fwrdeistref Sirol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd yn croesawu ymwelwyr i’r Fwrdeistref Sirol a mynychu a chefnogi digwyddiadau gaiff eu trefnu gan bobl a sefydliadau lleol.

Eleni, mae Howard wedi dewis elusen sydd wedi ei helpu e’n bersonol yn ogystal â rhai aelodau o’i deulu; Cefnogaeth Canser Macmillan, Merthyr Tydfil. Bydd yr holl arian o godir yn mynd tuag at y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan Macmillan yn yr Uned Ganser Arbennig yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.

Y Dirprwy Faer ar gyfer 2019/20 yw’r Cynghorydd Malcolm Colbran, Cynghorydd Ward Bedlinog.

Os ydych yn dymuno estyn gwahoddiad i’r Maer i ddod i ddigwyddiad, yna cysylltwch mayoral@merthyr.gov.uk.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni