Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynnydd sydyn yn y nifer o achosion o COVID-19 | BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWG
- Categorïau : Press Release
- 04 Tach 2020
Y diweddaraf am wasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Bydd cleifion sy’n ffonio 999 ac sydd angen cael eu derbyn i’r ysbyty ar frys yn mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn dilyn y newidiadau dros dro i’r drefn ar gyfer derbyniadau brys i’r ysbyty y mis diwethaf. Yn ogystal, mae llawdriniaethau a mathau eraill o driniaeth sydd wedi ei chynllunio ymlaen llaw hefyd ar fin ailddechrau yn raddol ac mewn modd diogel.
Bydd cleifion sydd wedi eu hanfon ymlaen ar frys i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gan feddygon teulu, ac unrhyw un sy’n cyrraedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac sydd angen cael ei dderbyn ar frys yn dilyn asesiad, yn cael eu derbyn i’r ysbyty hwnnw.
Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 160
Marwolaethau yn sgil achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 47
*roedd y ffigurau hyn yn gywir ar 26/10/2020
Ysbyty'r Tywysog Siarl
Achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 69
Marwolaethau yn sgil achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 11
*roedd y ffigurau hyn yn gywir ar 26/10/2020
Ysbyty Tywysoges Cymru
Achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 89
Marwolaethau yn sgil achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 11
*roedd y ffigurau hyn yn gywir ar 26/10/2020
Ysbyty Cwm Rhondda
Achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 26
Marwolaethau yn sgil achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – (dydy’r rhain ddim yn cael eu rhyddhau oherwydd y nifer fach o achosion a’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar breifatrwydd cleifion)
*roedd y ffigurau hyn yn gywir ar 26/10/2020
Ysbyty Maesteg
Achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – 22
Marwolaethau yn sgil achosion o COVID-19 sy’n gysylltiedig – (dydy’r rhain ddim yn cael eu rhyddhau oherwydd y nifer fach o achosion a’r effaith y byddai hynny’n ei chael ar breifatrwydd cleifion)
*roedd y ffigurau hyn yn gywir ar 26/10/2020
Adrannau Argyfwng
Rydyn ni’n apelio i bawb yn ein cymunedau i’n helpu i reoli’r pwysau rydyn ni’n eu hwynebu ar draws ein hysbytai. Gallwch ein helpu trwy ystyried yn ofalus ai mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yw’r dewis priodol ar gyfer eich anghenion gofal iechyd. Mae’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfer achosion brys YN UNIG. Rydyn ni’n annog pawb i ystyried a all gwasanaethau eraill ddarparu gofal sy’n addas ar gyfer eu hanghenion, fel gwefan 111 GIG Cymru, unedau mân anafiadau, fferyllfeydd a gwasanaethau meddyg teulu. Mae manylion ar ein gwefan.
Datganiad BIP CTM
Meddai Cyfarwyddwr Meddygol BIP CTM, Dr Nick Lyons:
“Mae’r haint yn parhau i ledaenu ar raddfa bryderus yn ein cymunedau. Rhaid i bob un ohonom ni ystyried ein cyfrifoldebau o ddifrif a chadw at y cyfyngiadau symud yn ystod yr 17 o ddiwrnodau hyn. Drwy wneud hyn, byddwch chi’n ein helpu ni i reoli’r feirws a diogelu pawb, gan gynnwys y bobl sydd fwyaf agored i niwed, yn ein cymunedau.
“Os ydych chi’n dioddef o unrhyw rai o symptomau COVID-19, ewch i gael prawf cyn gynted â phosib. Cofiwch y byddwch chi’n dal i fod yn heintus hyd yn oed os bydd symptomau ysgafn gyda chi, felly dewch draw i un o’r canolfannau profi.”
Rhaid anfon pob ymholiad gan y wasg at CTM.News@wales.nhs.uk