Ar-lein, Mae'n arbed amser

Achosion COVID-19 Newidiadau i wasanaeth Ysbyty Brenhinol Morgannwg

  • Categorïau : Press Release
  • 08 Hyd 2020
default.jpg

Mae newidiadau dros dro i’r gwasanaeth yn parhau mewn lle gan gynnwys:

·       Gohirio llawdriniaethau dewisol dros dro (ac eithrio nifer fach iawn o achosion canser brys sydd wedi cael blaenoriaeth glinigol);

·       Dargyfeirio derbyniadau brys i ysbytai eraill (ac eithrio gyda phlant)

·       Dargyfeirio cleifion Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (999) i ysbytai eraill (ac eithrio gyda phlant)

·       Does dim newid i’r wardiau paediatreg hunangynhwysol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, maen nhw’n aros ar agor

·       Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn yr ysbyty yn aros ar agor

 

Achosion Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Cleifion COVID-19 sy’n gysylltiedig â’r achosion – 129

Marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r achosion – 24

*niferoedd cywir ar 7/10/2020

 

Diweddariadau Ychwanegol 

Ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn monitro’n ofalus nifer o achosion ar safleoedd Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Cymerwyd camau ar unwaith i geisio ymatal y feirws.

 

Achosion Ysbyty’r Tywysog Siarl

Cleifion COVID-19 sy’n gysylltiedig â’r achosion – 17

Marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r achosion – 1

*niferoedd cywir ar 7/10/2020

 

Achosion Ysbyty Tywysoges Cymru

Cleifion COVID-19 sy’n gysylltiedig â’r achosion – 16

Marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r achosion – 1

*niferoedd cywir ar 7/10/2020

 

Ysbyty’r Seren

Rydym yn parhau i weithio ar gynllun i agor Ysbyty Seren cyn gynted ag y bo modd a sicrhau fod holl gamau gweithredol a rheoli haint wedi eu sefydlu’n llwyr er mwyn derbyn cleifion. Mae ein timau’n gweithio’n galed iawn i baratoi’r Ysbyty ar gyfer cleifion, gydag ansawdd gofal a diogelwch o’r flaenoriaeth uchaf. Mae paratoadau wedi cymryd yn hirach nag a ragwelwyd, fodd bynnag caiff amseriad agor Ysbyty Seren ei adolygu’n gynnar yr wythnos nesaf a byddwn yn rhoi diweddariad pellach.

 

Llinell Gymorth

Cafodd llinell gymorth ei sefydlu i unrhyw un sydd â phryderon sy’n berthnasol i achosion COVID yn CEM UHB.

Gall aelodau o’r cyhoedd ffonio 01685 726464 rhwng 9am a 4.30pm (Llun- Gwener) i siarad gyda thîm a fydd yn barod i’ch helpu.

 

Adrannau Argyfwng

Rydym yn apelio ar bawb yn ein cymunedau i’n helpu ni i reoli’r pwysau yr ydym yn eu profi ar draws lleoliadau ein hysbytai. Gallwch helpu drwy wirioneddol ystyried a yw cael mynediad at ein Hadrannau Argyfwng yn gam priodol i’w gymryd at ddibenion eich anghenion gofal iechyd. Mae’r Adran Argyfwng ar gyfer achosion brys ac argyfwng yn UNIG. Anogwn bawb yn ystod y cyfnod hwn i ystyried ble y caiff gwasanaethau amgen ddarparu anghenion addas i’w hanghenion, fel gwefan GIG 111 Cymru, uned mân anafiadau, fferyllfeydd a Meddygon Teulu. Gellir dod o hyd i fanylion ar ein gwefan.

 

Datganiad BYP CTM

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol BYP CTM Dr Nick Lyons “Ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn parhau i fonitro achosion yn ofalus ar safleoedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae diogelwch ein cleifion a’n staff yn parhau’n brif flaenoriaeth i ni a chafodd camau dybryd eu cymryd i ymatal lledaeniad y feirws.

“Rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol dros ben i’r achosion ac mae’r gweithredu lliniarol gwydn a gafwyd ar draws ei safleoedd yn cael eu harsylwi’n ofalus. Fodd bynnag ag ystyried natur Coronafeirws, mae’n anochel y bydd oediad cyn y byddwn yn gweld effaith gadarnhaol y mesurau hyn.

“Ymddiheurwn am y pryder y bydd hyn yn ei achosi i deuluoedd a’n cymunedau a byddem yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw gwestiynau i gysylltu â’n llinell gymorth  01685 726464 rhwng 9am a 4.30pm (Llun-Gwener) ble fydd tîm yn barod i’ch helpu.

“Mae cyfraddau heintiad hefyd yn parhau i godi yn ein cymunedau ac rydym yn apelio ar holl aelodau’r cyhoedd i gymryd y cyfrifoldeb o ddifri a sicrhau nad yw eu hymddygiad yn cyfrannu at ledaenu COVID-19 ymhellach. Rydym yn parhau’n ddiolchgar i holl aelodau ein cymuned sy’n parhau i lynu wrth y canllaw er mwyn helpu i reoli’r feirws hwn.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau