Ar-lein, Mae'n arbed amser
Artistiaid Cyfarthfa yn nodi oes aur y diwydiant dur ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 18 Awst 2020
Mae artistiaid preswyl Castell Cyfarthfa wrthi’n creu ychwanegiadau cyffrous i gasgliad yr amgueddfa drwy adeiladu eu ffowndri efydd eu hunain.
Mae Allison Richards a Rob Taylor (ARRTDUO) yn cynhyrchu cyfres o fowldiau efydd sy’n gysylltiedig â threftadaeth y castell. Wedi iddynt sylweddoli fod cost prynu ffowndri efydd yn o leiaf £20,000, penderfynodd y ddau fynd ati i adeiladu eu ffowndri eu hunain allan o ddeunyddiau ailgylchu oedd ganddynt.
“Mae’r odyn losgi wedi cael ei wneud o ddrwm olew ac odyn y crwsibl o odyn drydanol 40 mlwydd oed a newidiwyd i nwy. Gwnaethpwyd blychau cerameg o hen unedau cegin,” meddai Rob.
“Gwnaethom hyd yn oed ein hoffer codi efydd o ddur, ailddefnyddiwyd offer gwydr a cherameg y stiwdio ac adeiladwyd stordy ar gyfer yr offer mowldio gan greu crochan losgi o ddrwm olew arall. Roedd cyfanswm y gost oddeutu £1,000.”
Y ddau ddarn cyntaf a gafodd eu creu oedd ‘The Lady’ a ‘The Puddler’ ac mae ARRTDUO hefyd wedi creu cyfres o fideos yn dangos yr holl broses a’r canlyniadau.
“Mae’r gwaith yn cael ei ddatblygu o hyd ond rydym am geisio ei gydgysylltu â Chyfarthfa gan greu undod rhwng treftadaeth y gorffennol a threftadaeth gelfyddydol y dyfodol,” dywedodd Allison.
“Mae hyn, yn ogystal â’r arddangosfa , Merthyr Tudful – Porth i’r Byd yn hybu perspectif celfyddydol Cyfarthfa gan ddatblygu’r casgliad o gelf cyfoes sydd eisoes yn bodoli a chreu ffrwd fyw o gelf sy’n seiliedig ar ‘greu’ ac sy’n rhan annatod o adfywiad y dref yn y dyfodol.”
Roedd yr artristiaid ar fin agor yr arddangosfa, Porth i’r Byd pan darodd Covid-19 a’i gorfodi i ohirio. Maent felly wedi creu fersiwn weledol o’r arddangosfa trwy gyfrwng fideo.
“Dros y canrifoedd, mae Merthyr wedi bod yn bair berw,” dywedodd Alison. “Cafwyd mewnlifiad enfawr o bob rhan o’r byd yn ystod y Chwyldro Diwydiannol: o Tseina, yr Eidal, Sbaen, Iwerddon a Phortiwgal. Roedd yn gyfnod cyfoethog, yn ddiwylliannol.”
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn gweld dau fideo cyntaf Allison a Rob:
https://youtu.be/Nksdi18LkVI
https://youtu.be/PFRM9pMPvwA
Cysylltwch ag Allison a Rob ar arrtduo@gmail.com
Gwefan www.arrtduo.com Twitter @arrtduo