Ar-lein, Mae'n arbed amser
Digwyddiad Cynllun Cyfarthfa am Ddiwylliant Cymreig ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 10 Ion 2020
Mae’r Tîm Dylunio sy’n datblygu ‘Cynllun Cyfarthfa’ – cynllun strategol 25 mlynedd ar gyfer ardal treftadaeth Cyfarthfa – yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar ddiwylliant Cymraeg ym Merthyr Tudful drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu Penseiri Ian Ritchie’n casglu safbwyntiau pobl am ddiwylliant, treftadaeth a dyfodol Merthyr Tudful, mewn cyfres o ddigwyddiadau ledled y fwrdeistref sirol a fynychwyd gan amrywiaeth o grwpiau, cynghorwyr a phreswylwyr lleol.
Bydd y digwyddiad nesaf hwn, ‘Sgwrs am Ddiwylliant Cymraeg ym Merthyr Tudful’, yng Nghanolfan Soar ddydd Llun 27 Ionawr. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2pm gyda chyflwyniad gan Benseiri Ian Ritchie, â thrafodaethau a sgyrsiau Cymraeg i sdilyn gyda chymorth gan staff Canolfan Soar. Disgwylir i’r digwyddiad orffen am 3.30pm.