Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pryd yn y Pwll/Dine in The Mine: bwyty gyda thema pwll glo yn agor yn nhref y dreftadaeth haearn

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Rhag 2021
The Mine (1)

Mae bwyty poblogaidd, The Mine, Cwmgwrach wedi agor ei ddrysau ym Merthyr Tudful- yn atgof o dreftadaeth ddiwydiannol y dref, mwyn na 100 mlynedd ers cau Gwaith Haearn Cyfarthfa.

Agorodd The Mine at CF47 a Castelany’s yn swyddogol ym Mhontmorlais ddydd Gwener ddiwethaf (Rhagfyr 03)- wedi ei addurno gydag addurniadau diwydiannol gwreiddiol gan gynnwys gantris metel, celf wal a wal goffa deimladwy.

Mae’r project trawsnewid hwn wedi gweld buddsoddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful o’i gynllun Cyfamser- sydd yn cefnogi mentrau newydd i agor busnesau mewn adeiladau gwag yng nghanol y dref.

Derbyniwyd cyllid ychwanegol o Gynllun Treftadaeth Tirwedd Tref, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a chyllid adfywio wedi ei dargedu, rhaglen adfywio canol tref Llywodraeth Cymru.

Mae The Mine CF47 a Castelany’s wedi eu lleoli ar lawr uchaf hen adeilad gwag yng Nghwrt Bowen- gyda’r llawr gwaelod yn gartref i far tapas Eidalaidd, bar gwin a mangre cerddoriaeth byw.

O blatiad o basta i fyrgers Americanaidd mae’r Mine CF47 a Castelany’s yn cynnig bwyd ar gyfer y teulu cyfan wedi ei wneud o gynnyrch lleol- Pryd ar gyfer glöwr ar ôl diwrnod called o waith (wedi ei weini ar rawiau!)

Mae Castelany’s yn cynnig tapas- Eidalaidd lawr llawr, wedi ei gynllunio gan y Prif Gogydd talentog a chydberchennog Marius Castelany - a gwblhaodd ysgoloriaeth gyda’r cogydd Eidalaidd byd enwog Antonio Carluccio.

Ar ol agor y gwesty gwreiddiol yng Nghwmgwrach yn ystod Haf 2020 mae’r gwesty wedi denu pobl o ar draws y DU-Mae pob bwrdd yn llawn nes Ionawr 2022.

Gyda channoedd o fyrddau wedi eu llenwi yn barod ar gyfer The Mine CF47,y gobaith yw gweld yr un sefyllfa ym Merthyr Tudful hefyd- ble mae Gwaith adnewyddu trefol yn digwydd. Rhan yw hyn o gynllun mawr y Cyngor i drawsnewid y dref yn atyniad twristaidd pwysicaf y cymoedd erbyn 2035.

Dwedodd cydberchennog The Mine, The Mine CF47 a Castelany’s Fine Dining, Stuart James : “Doedd agor bwyty yng nghanol pandemig ddim yn beth hawdd - felly dychmygwch ein balchder i ni allu dweud ein bod wedi agor dau!”

“Mae’r fenter ddiweddara wedi bod yn bosib trwy gynllun Cyfamser y Cyngor, a byddwn yn argymell pobl fusnes eraill i gysylltu gyda’r Cyngor a gweld sut mae’n bosib bod yn rhan o gynlluniau ar gyfer datblygu canol y dref.

“All ai ddim diolch digon i bobl Merthyr Tudful am eu cefnogaeth hyd yn hyn _ allwn ni ddim aros bod yn rhan o gymuned ganol y dref. Gwelwn ni chi’n fuan- a pheidiwch anghofio dod a lluniau eich cyndeidiau yn lowyr, weithwyr haearn neu leoliadau diwydiannol eraill y cymoedd. Byddem wrth ein bodd yn llenwi ein wal atgofion gyda’r lluniau.”

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio'r Cyng Geraint Thomas,: ““Rydym yn hynod falch i weld bwyty arall yn agor yng nghanol y dref ac rydym yn hyderus y bydd The Mine yr un mor boblogaidd yma ag yw e yng Nghwmgwrach.

“The Mine CF47 yw'r busnes diweddaraf i elwa o gynllun Cyfamser, sydd yn gysylltiedig ag adfywio canol y dref.

“Mae’r fenter arloesol hon wedi bod yn bosib drwy waith called ein tîm datblygiad economaidd ar bartneriaid wrth helpu datblygu canol ein tref i fagu diwylliant o fusnesau bwyd a diod annibynnol.”ychwanegodd.

“Fe fydd mwy i ddilyn mewn cyfnod cyffrous iawn i economi Merthyr Tudful.”

Cwrt Bowen yw y 12fed adeilad i weld trawsnewidiad sylweddol fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirwedd Tref Pontmorlais ers ei lansio yn 2011.

Y perchnogion yw cwmni lleol Murphy Corke Developments —sydd yn rhentu’r adeilad i berchnogion y Mine.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni