Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fideo drôn yn dangos gwireddiad o weledigaeth yr orsaf fysiau

  • Categorïau : Press Release
  • 27 Ion 2021
Bus station video still

Mae Morgan Sindall, prif gontractwr yr orsaf fysiau newydd, wedi creu ffilm gyda drôn i ddangos pa mor agos at gael ei gwblhau y mae’r adeilad.

 

Mae’r fideo’n dangos yr holl gynnydd a wnaed ar y safle, hyn yn oed dan gyfyngiadau’r pandemig, gyda’r orsaf i’w hagor yn brydlon yn y gwanwyn.

“Roedden ni wrth ein boddau o’r cyfle i hedfan drôn dros yr adeilad newydd a gweld fod gweledigaeth y prosiect wedi dod at ei gilydd,” dywedodd Rheolwr Prosiect Morgan Sindall, Ross Williams. 

“Mae yna ymdeimlad mawr o foddhad ar draws y safle,” ychwanegodd. “Mae crefftwyr yn ymfalchïo’n fawr yn y gwaith a gyflawnwyd oherwydd ansawdd y defnyddiau a’r dylunio y maen nhw’n gweithio â nhw. Ac mae’r tîm dylunio yn gweld eu gweledigaeth yn cael ei wireddu.

“Bu’r fideo’n wych i bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect a’u hysbrydoli nhw i anelu a gwblhau a gorffen i’r safon uchaf. Ein gobaith yw y bydd hefyd yn annog diddordeb o’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt, ac yn y pen draw'r rheini a fydd yn defnyddio’r orsaf newydd yn y dyfodol agos.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae’r fideo’n rhoi gwir ddarlun o’r orsaf newydd a sut y bydd yn gwasanaethu’r gymuned ac yn cael ei rhedeg pan fydd wedi ei chwblhau’n llwyr. Gallwch weld y cysylltiadau â chanol y dref, y dref gyfan a thu hwnt.

“Mae Cyfnewidfa Fysiau newydd Merthyr Tudful yn ychwanegiad trawiadol i’r dref ac mae’n grêt i’w weld o bob ongl yn erbyn y tirlun presennol.”

  • Dyfarnwyd £11m i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer yr orsaf, a gaiff ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, i gydweddu’r buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni