Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae gan Hwb Cymorth Cynnar stondin wybodaeth

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Hyd 2019
Screenshot 2019-10-07 at 12.09.31

Bob Dydd Llun, mae gan yr Hyb Cymorth Cynnar stondin wybodaeth yn nerbynfa’r siop un stop yn y Ganolfan Ddinesig. Dewch i weld pa wasanaethau sydd ar gael ar gyfer teuluoedd yn ardal Merthyr Tudful. Bydd ardal gyfrinachol ar gyfer rhieni neu ofalwyr a hoffai ddod i drafod eu hanghenion. Bydd gwybodaeth a chyngor yn cael eu darparu ac unrhyw gyfeiriadau at wasanaethau a allai gynorthwyo’ch teulu a hynny pan fyddwch chi’n bresennol. Dewch i gwrdd â’r staff; rydym yma i’ch cynorthwyo.

Os hoffech gael mynediad at gymorth gan yr Hyb Cymorth Cynnar o Ddydd Llun i Ddydd Iau, rhwng 8:30am a 5pm, Ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 4:30pm, cysylltwch â’r staff ar 01685 725000 a gofynnwch am yr Hyb Cymorth Cynnar. Gallwch hefyd gwrdd â’r staff yn y Ganolfan Ddinesig. Gofynnwch i staff y dderbynfa am gael gweld aelod o staff yr Hyb Cymorth Cynnar.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni