Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffordd hawdd o ddarganfod cyfoeth cudd o weithgareddau Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Medi 2019
Active Merthyr activity finder

Mae gan bobl Merthyr Tudful sydd am ddyfod yn fwy actif ond sy’n ansicr o’r hyn sydd ar gael yn lleol, restr gynhwysfawr hawdd ei defnyddio ar flaenau eu bysedd bellach.

Mae map rhyngweithiol sy’n rhestru mwy na 50 o wahanol glybiau, grwpiau a gweithgareddau ledled y fwrdeistref sirol yn dangos amrywiaeth i ddefnyddwyr o wahanol orchwylion ledled y fwrdeistref sirol sydd ar stepen eu drws a thu hwnt.

Cafodd Tîm Heini Merthyr y Cyngor Bwrdeistref Sirol y syniad am hyn ar ôl ymgynghori â rhieni yn ogystal â darllen postiadau dirifedi ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn beth oedd ar gael i blant lleol ei wneud.

“Rydym o hyd yn gweld postiadau ar Facebook yn gofyn a yw pobl y gwybod am unrhyw sesiynau pêl-droed, dosbarthiadau dawns a chyfleoedd eraill o ran gweithgaredd corfforol,” dywedodd y Cydlynydd Datblygu Chwaraeon, Johnathon Baber.

“Roeddem ni’n gwybod eisoes fod llawer yn digwydd, ond cawsom ni, hyd yn oed, ein synnu gan helaethrwydd ac amrywiaeth yr hyn sydd ar gael – o ‘ffit pram’ i Jiwdo Ooshimeyo, bloeddarwain a roller derby,” ychwanegodd.

“Ond fe wyddom ni hefyd nad hon yw’r rhestr fwyaf cynhwysfawr ac rydym yn annog darparwyr eraill pob clwb/gweithgaredd i roi gwybod i ni am eu manylion fel y gallwn eu cynnwys ar y wefan hefyd.”

Mae’r ‘Dod o Hyd i Weithgaredd’ ar wefan Heini Merthyr wedi ei ddosbarthu’n adrannau yn ôl oed, felly os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’ch plentyn bach, cliciwch ar y dewis ‘0-3 oed’ ac yn y blaen.

Mae’r wefan ar gael yma ceir hefyd ffurflen gysywllt i restru eich gweithgaredd. Gallwch hefyd e-bostio activemerthyrtydfil@Merthyr.gov.uk neu ffonio 01685 727493.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni