Ar-lein, Mae'n arbed amser
Amgylcheddwr i oruchwylio prosiect adfer Parc Taf Bargoed
- Categorïau : Press Release
- 09 Maw 2020

Mae amgylcheddwr o Awstralia wedi cael ei hapwyntio i oruchwylio’r gwaith uchelgeisiol i adfer tir a dyfrffyrdd sy’n amgylchynu un o fannau gwyrdd mwyaf prydferth Merthyr Tudful.
Mae Rachel Morton wedi cael ei hapwyntio i reoli Prosiect Adfer Dalgylch Taf Bargoed, menter lanhau gwerth £½ miliwn a’i nod yw adfer glannau’r afon a chynefinoedd lleol gan amddiffyn rhag erydiad a sicrhau fod bioamrywiaeth a systemau eco’r ardal yn gynaliadwy.
Ar waelod ardal y dalgylch, arferai safle 140 hectar Parc Bargoed fod yn safle tri hen bwll glo ac mae gwaith adfywio wedi trawsnewid y parc yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.
Ond mae 3.6 hectar o lynnoedd y parc wedi cael eu heffeithio gan silt a gwaddod sy’n cael effaith ar y gymuned leol; ar ddigwyddiadau, gweithgareddau hamdden a hyfywedd economaidd y parc.
Bydd y prosiect yn defnyddio mesurau fel plannu coed, ffensio a newidiadau i wely a glannau’r afon er mwyn gostwng lefelau silt, gwella cynefinoedd a lleihau’r risg o lifogydd i lawr yr afon.
Y flwyddyn ddiwethaf, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful grant, gwerth £417,000 ar gyfer y prosiect gan Cymunedau Gwledig, Llywodraeth Cymru - Cynllun Rheoli Cynaliadwy, Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a ariannir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a gan Lywodraeth Cymru. Defnyddiwyd y cyllid ar gyfer cyfanswm costau’r prosiect o £507,287, a derbyniwyd £60,000 gan y Cyngor a £30,000 gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Clywodd y Cynghorwyr fod ardal dalgylch yr afon wedi bod yn ‘rhan bwysig o fywydau pobl, ers cenedlaethau’ ac y byddai ffermydd lleol, busnesau hamdden a chymunedau Trelewis, Treharris a Bedlinog yn fuddiolwyr allweddol.
Mae Rachel wedi ei chymhwyso mewn Astudiaethau Amgylcheddol Awstralaidd ac yn astudio ar hyn o bryd ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Rheolaeth Gadwriaethol yr Amgylchedd. Cyn hyn, bu’n gweithio ar raglenni a ariannwyd gan grantiau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a bu’n rheoli Prosiect Gweithredu Economi Gwledig sy’n gronfa grant gwerth £1.7 miliwn ar gyfer busnesau gwledig. Yn ei amser hamdden, mae’n wirfoddolwraig amgylcheddol ym Mharc Gwledig Bryngarw ac mewn coetiroedd lleol.
Dywedodd Rachel y byddai gwaith ar y prosiect ‘Adfer yr Afon’ yn golygu ymgysylltu â thirfeddianwyr lleol, cominwyr, preswylwyr, busnesau ac ysgolion a’u hannog i gymryd rôl fel ‘gwarcheidwaid cymunedol.’
“Rydym yn gobeithio gweld pobl leol yn cyfranogi mewn arolygon sy’n ymwneud â’r afon ac mewn gweithgareddau gwirfoddol,” ychwanegodd. “Mae afonydd De Cymru yn rhan mor bwysig o hanes yr ardal ac yn allweddol ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r prosiect yn fenter gydweithredol sydd hefyd yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Afon De Cymru, Cyfeillion Parc Taf Bargoed, Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr (De Cymru Cyf, Cymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr, Clwb Canŵio Aber-fan, Canolfan Rock UK Summit Centre, Cymdeithas Bysgota Taf Bargoed, Ymddiriedolaeth Ddatblygu Taf Bargoed, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Dywedodd Leila Thornton o Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn croesawu apwyntiad Rachel ac rydym yn falch iawn i fod yn bartner yn y prosiect cyffrous hwn a fydd yn gwella’r amgylchedd ac ansawdd yr afon a’r llyn er mwyn i gymunedau lleol eu mwynhau.”
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn hynod falch i fod wedi apwyntio Rachel, sydd â chymaint o brofiad a brwdfrydedd am yr amgylchedd ac mae’n fenter hollbwysig.”
“Mae’n brosiect cymunedol a fydd yn cynnwys cymaint o bobl â phosib sydd â chysylltiad â dalgylch yr afon gan ddysgu am bwysigrwydd afonydd iach a bioamrywiaeth ynddynt a fydd yn sicrhau cynaliadwyedd am flynyddoedd lawer i ddod.”