Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arbenigwyr Ewropeaidd yn cwrdd ym Merthyr Tudful i gynllunio hwb i economi gymdeithasol

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Ebr 2019
SuNSE pic

Yn ddiweddar roedd Merthyr Tudful yn lleoliad ar gyfer cyfarfod rhwng swyddogion adfywio o bob rhan o Ewrop sy’n ceisio helpu rhoi cychwyn ar dwf economaidd yn eu cymunedau lleol.

Cynhaliodd y Cyngor Bwrdeistref Sirol y digwyddiad deuddydd ar ran y Rhwydwaith Cefnogi ar gyfer Entrepreneuriaid Cymdeithasol (SuNSE), sef prosiect sy’n cynnwys 10 o bartneriaid traws-genedlaethol Gogledd-orllewin Ewrop sy’n gweithio i gefnogi mentrau cymdeithasol i helpu i adfywio’r mannau maen nhw’n byw ynddynt.

Mae rhaglen Interreg VB Gogledd-orllewin Ewrop a ariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi dwyn ynghyd arbenigedd, asiantaethau cefnogi, awdurdodau lleol, prifysgolion ac arbenigwyr cefnogi menter i fynd i’r afael â ‘problemau cyffredin o ran methiant yn y farchnad’.

Canlyniad hyn yw rhwydwaith wedi ei gynllunio o ganolfannau entrepreneuraidd cymdeithasol ar gyfer ysgogi gweithgaredd economaidd sy’n cael ei lywio gan y gymuned mewn rhanbarthau o dan anfantais.

Gwnaeth partneriaid o’r Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Lloger, Yr Iseldiroedd, Luxembourg, Ffrainc a’r Swistir fynychu’r cyfarfodydd a’r gweithdai ym Merthyr Tudful ac ymweld â’r hyb menter gymdeithasol leol sef Canolfan Menter Merthyr Tudful.

Caiff rhaglen SuNSE ei harwain gan Fenter Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban, a dywedodd ei Rheolwr Polisi a Phrosiectau, Kevin McDonald: “Roedd y cyfnewid ym Merthyr Tudful yn gyfle ardderchog i ddysgu am amgylchedd a dynamig gwahanol ar gyfer mentrau cymdeithasol a rhannu peth o’r gwaith ardderchog rydym ni oll wedi ymgymryd ag e yn yr ardal hon.”

Dywedodd Aelod Cabinet Merthyr Tudful dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas mai thema graidd y rhaglen oedd cefnogi cwmnïau sy’n dechrau a chreu swyddi.

“Y nod yw y bydd y mentrau cymdeithasol yn helpu i leihau allfudiad pobl uchelgeisiol drwy gynnig cefnogaeth iddynt mewn meysydd fel cynllunio busnes, rheoli ariannol, ymwybyddiaeth o’r farchnad a chyfleoedd masnachu i’w galluogi nhw i sefydlu busnesau cymdeithasol wedi eu lleoli’n lleol,” ychwanegodd.

“Ar un adeg Merthyr Tudful oedd Prifddinas Haearn y Byd, ond bellach dyma’r lleiaf o’r awdurdodau lleol yng Nghymru,” dywedodd y Cynghorydd Thomas. “Tra mai diwydiant trwm oedd gorffennol y dref, mae yw ei phresennol mewn twristiaeth, manwerthu, cynhyrchu ysgafn a’r sectorau gwasanaethu a chyhoeddus. Nod SuNSE yw annog a meithrin mentrau cymdeithasol i fod yn rhan sylweddol o’i dyfodol.”


• Rhaglen Gydweithredol Diriogaethol Ewropeaidd yw Interreg Gogledd-orllewin Ewrop sy’n cael ei hariannu gan y CE gyda’r nod o wneud ardal Ogledd-orllewin Ewrop yn chwaraewr economaidd allweddol ac yn lle deniadol i fyw a gweithio ynddi, gyda lefelau uchel o fenter, cynaliadwyedd a chydlyniant.

• Y mae’n buddsoddi EUR 370 miliwn o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop mewn gweithgareddau wedi eu seilio ar gydweithrediad sefydliadau o wyth o wledydd: Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen, Iwerddon, Luxembourg, Yr Iseldiroedd, Swistir a’r Deyrnas Unedig.

• Mae Canolfan Fenter Merthyr Tudful, a agorodd ym mis Mehefin 2015, yn cefnogi busnesau sy’n dechrau a busnesau cyfredol sy’n ceisio datblygu eu cwmnïau neu syniadau busnes. Cafodd y sefydliad ei greu gan Tydfil Training ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac ers ei lansio, mae wedi helpu dros 300 o fusnesau o amrywiol sectorau, gan gynnwys digidol a manwerthu.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni