Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwobrau Baner Werdd eto fyth i Ferthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 15 Ion 2020
Mae Daniel Lewis yn ei arddegau ac fe’i cyflwynwyd â gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn tra bo’r tirmon Paul Haines wedi ennill Cyflogai y Flwyddyn gan fenter Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus. Felly Merthyr Tudful yw enillydd dau o ond pum categori’r gystadleuaeth.
Hon yw’r flwyddyn gyntaf i Gadwch Gymru’n Daclus gyflwyno gwobr mewn cydnabyddiaeth o wirfoddolwyr ifanc, gyda Daniel - sy’n gwirfoddoli ym Mharc Cyfarthfa a Pharc Taf Bargoed - yn llwyr deilwng o’r wobr. Mae’r Cyflogai Gorau, Paul Haines yn gweithio ym Mharc Taf Bargoed ac wedi bod gyda’r awdurdod lleol ers 36 o flynyddoedd.
Dywedodd Cydlynydd Baner Werdd, Lucy Prisk: “Ni allwn danamcangyfrif pa mor bwysig yw parciau o ansawdd uchel a gwagleoedd gwyrdd i’n cymunedau, ein hiechyd a’n llesiant, natur a’r economi. Gyda diolch i ymroddiad a brwdfrydedd pobl fel Daniel a Paul mae gennym gymaint o gyfleusterau gwych ar gael ar stepen y drws.”
Mae Parc Taf Bargoed a Pharc Cyfarthfa ill dau wedi ennill gwobrau Baner Werdd - nod rhyngwladol am barc o ansawdd, neu wagle gwyrdd a gyflwynir gan Gadw’ch Cymru’n Daclus - ers naw blynedd a thair blynedd yn olynol yn y drefn honno.
Mae Daniel, 14 yn aelod o Grwpiau Gwirfoddol Cyfeillion Parc Taf Bargoed a Chyfeillion Parc Cyfarthfa.
Yn ogystal â helpu gyda gweithgareddau ymarferol fel plannu coed, gosod gwrych a phaentio dodrefn y parc, mae Daniel wedi defnyddio ei sgiliau TG a ffotograffiaeth i wella gwefannau a chyfryngau cymdeithasol y grwpiau. Mae e hyd yn oed wedi trefnu prosiect camera gyda’r nos, gan gofnodi bywyd gwyllt y nos yn y ddau barc i bawb gael ei werthfawrogi.
Enillodd Paul ei wobr am ei gyfraniad yn cynnal a chadw Parc Taf Bargoed a’i gadw’n lân ac yn ddiogel ar gyfer statws Baner Werdd. Mae ei waith diweddar wedi cynnwys sefydlu cynefinoedd newydd a chefnogi menter i helpu i fynd i’r afael â baw cŵn.
“Mae derbyn dwy wobr allan o bum categori yn unig yn dipyn o gyflawniad,” dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor Bwrdeistref Sirol, y Cynghorydd Geraint Thomas.
“Rydym yn falch iawn o ymroddiad ein staff a gwirfoddolwyr fel Paul a Daniel. Mae ganddynt hefyd Arweinydd Tîm y Parciau sy’n gosod esiampl, sef Gerald Lewis, sy’n mynd y tu hwnt i’w rôl â’r Cyngor i wirfoddoli a chyfrannu at yr amgylchedd a bioamrywiaeth oddi fewn i’r fwrdeistref.”