Ar-lein, Mae'n arbed amser
Tîm rhaglen flaenllaw Aspire yn cael enwebiad ar gyfer gwobr genedlaethol
- Categorïau : Press Release
- 28 Maw 2021
Mae tîm llwyddiannus Rhaglen Prentisiaethau a Rennir Aspire, Merthyr Tudful ynghyd â’i bartner, Aspire ym Mlaenau Gwent wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobr fawr, genedlaethol.
Cafodd y timau eu dewis i fod yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru, digwyddiad rhithiol sydd yn cael ei gynnal 29 Ebrill ac sydd yn uchafbwynt yn y calendr gweithiol.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad ymarferwyr dysgu, prentisiaid, cyflawnwyr neilltuol a chyflogwyr dynodedig sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddi Llywodraeth Cymru.
Dewiswyd Aspire Merthyr Tudful ac Aspire Blaenau Gwent, ynghyd â phedwar sefydliad arall yng nghategori ‘Cyflogwr Mawr a Macro’r flwyddyn.’ Mae’r wobr yn dathlu ymroddiad y cyflogwr i ddatblygu’r gweithlu drwy brentisiaethau a chynorthwyo cyflogai yn ystod hyfforddiant.
Cafodd Aspire Blaenau Gwent ei sefydlu yn 2015 ac Aspire Merthyr Tudful yn 2017. Mae’r tîm o saith aelod o staff yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau ar gyfer busnesau manwerthu a pheirianyddol lleol. Hyd yn hyn, mae 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy’r rhaglen.
Dros y pedair blynedd diwethaf, cafodd dros 30 o bobl ifanc ym Merthyr Tudful eu lleoli â chwmniau tra eu bod yn astudio yng Ngholeg Merthyr Tudful, Coleg Y Cymoedd a Choleg Caerdydd a’r Fro.
Mae’r prentisiad yn cael eu cyflogi gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol, eu hyfforddi gan y colegau a Hyfforddiant Tudful a’u gosod â chwmni lleol am ddwy neu dair blynedd, yn ddibynnol ar hyd y cwrs prentisiaeth.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr Aspire fod rhwng 16 a 24 oed, meddu ar bum TGAU, graddau A-C gan gynnwys pynciau STEM a Lefel A mewn pynciau STEM – yn enwedig mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai bod yn dechrau ar VRQ neu fod wedi cwblhau Uwch Raglen Beirianyddol neu Lwybr i Brentisiaethau neu fod wedi cwblhau VRQ yn y coleg.
Trefnir Gwobrau Prentisiaeth Cymru ar y cyd gan Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn sgil panel o feirniaid amlwg, rydym wedi dwyn ynghyd 35 o gyfranogwyr mewn 12 categori i’r rownd derfynol a hynny o bob rhan o Gymru.
Y cyfranogwyr eraill yn y categori ‘Cyflogwr Mawr a Macro’r Flwyddyn,’ yw Heddlu Dyfed-Powys, DOW, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.