Ar-lein, Mae'n arbed amser
Tipiwr anghyfreithlon yn cael ei dedfrydu
- Categorïau : Press Release
- 11 Medi 2020

Dyfarnodd llys i wraig a fethodd â gwirio dilysrwydd gŵr a gynigiodd ddyddodi gwastraff ar ei rhan iddi “anharddu’r wlad” wedi i’w gwastraff gael ei ddyddodi yn y Gurnos. Cafwyd Sarah Weaver, o Roslan, Sirhowy, Tredegar yn euog gan Lys Ynadon Merthyr Tudful ar 9 Medi am drosedd a oedd yn torri adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Cyfaddeddodd Weaver iddi, cyn 1 Mai 2019 fethu â chymryd cyfrifoldeb o’i gwastraff cartref a chaniatau iddo gael ei ddyddodi’n anghyfreithlon yn nhanffordd Pen-y-Dre, Gurnos. Roedd y gwastraff yn cynnwys gwastraff cartref cymysg, rhai mewn bagiau ac eraill ddim mewn bagiau.
Cafwyd tystiolaeth gan Jemma Price a Leighton Gooch, gweithredwyr tipio anghyfreithlon y Cyngor a ddywedodd, yn sgil cwyn iddynt ei dderbyn, iddynt fynd i’r danffordd a chanfod y gwastraff a oedd yn cynnwys llythyron wedi’u cyfeirio at yr amddiffynnydd.
Ysgrifennwyd ati ar ddau achlysur gan ofyn iddi fod yn bresennol mewn cyfweliad er mwyn esbonio sut roedd ei llythyron ynghanol y gwastraff ond ni chafwyd ymateb ganddi i’r un cais.
Yn y llys, amlinellodd Simon Jones, Cyfreithiwr y Cyngor ffeithiau’r achos a thynnwyd sylw at faint o broblem yw tipio anghyfreithlon i’r Cyngor ac i’r cyhoedd ym Merthyr Tudful.
Trwy’r cyfreithiwr, dywedodd Weaver na adawodd hi ei hun y sbwriel ond iddi ei roi i ŵr a oedd yn cynnig ei wasanaethau ar Facebook i ddyddodi gwastraff.
Rhoddodd £150 iddo er mwyn mynd â’i gwastraff ond ni allodd ddarparu ei fanylion i’r Cyngor ac i’r Llys. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n casglu gwastraff gan aelod o’r cyhoedd feddu ar drwydded trosglwyddo gwastraff a rhoi nodyn trosglwyddiad gwastraff i’r preswylydd fel cofnod o’r trosglwyddiad. Nid yw rhoi’ch gwastraff i unigolyn neu gwmni arall i’w dyddodi ar eich rhan yn ddigonol.
Dywedodd yr Ynad i Weaver “anharddu’r wlad” gan ddweud ei fod yn gobeithio ei bod wedi dysgu ei gwers.
Gan ei bod yn derbyn y Credyd Cynhwysol a’i bod yn talu dirwyon eraill, cyfyngodd yr ynadon ei chosb. Derbyniodd ddirwy o £150 a chostau o £641.40.