Ar-lein, Mae'n arbed amser
Tipwyr anghyfreithlon yn derbyn dirwyon gwerth miloedd o bunnoedd am ddyddodi gwastraff yn amhriodol
- Categorïau : Press Release , Council
- 18 Rhag 2019
Cafwyd 10 Erlyniad Llwyddiannus ers Ionawr ar ran CBSMT am Dipio yn Anghyfreithlon a Dyletswydd Gofal mewn perthynas â gwastraff.
Cafodd dirwyon a chostau o dros £8000 eu cyflwyno gan Lys Ynadon Merthyr am y troseddau hyn!
Os fyddwch yn clirio eich tŷ y Nadolig hwn gwnewch yn siŵr eich bod yn gwaredu eich gwastraff yn gyfrifol ac os fyddwch yn talu rhywun i gymryd eich gwastraff i ffwrdd gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu hawdurdodi i wneud hynny!
Caiff busnesau eu hatgoffa hefyd fod angen iddyn nhw allu darparu dogfennaeth am sut y maen nhw’n gwaredu eu gwastraff masnachol os bydd gofyn iddyn nhw wneud hynny.
Mae Cyngor Merthyr yn ymroddedig i fynd i’r afael â’r broblem hon sydd ar ei thyfiant yn ein bwrdeistref!
Wedi gweld? rhowch wybod!