Ar-lein, Mae'n arbed amser

Grant Tlodi Bwyd 2019

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Rhag 2019
Welsh Government logo

Mae gan sefydliadau gwirfoddol a chymunedol Merthyr Tudful sy'n cefnogi prosiectau cymunedol lleol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd tan Ionawr 13 i wneud cais am arian o'r Grant Tlodi Bwyd.

Mae pwrpas y cyllid wedi ei osod yng Nghynnig Cyllid Pontio'r UE ar gyfer Mynd i’r Afael â Thlodi Bwyd ac Ansicrwydd Bwyd. Y briff yw galluogi awdurdodau lleol i:
• Gefnogi nifer gynyddol o bobl sy’n wynebu tlodi bwyd drwy ymestyn y ddarpariaeth banciau bwyd cyfredol ar draws pob awdurdod.
• Mae grantiau ar gyfer costau Refeniw a/neu Gyfalaf.
• Lleiafswm o £1000 / Uchafswm o £5000 (dros dro)

Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i achosion busnes eithriadol sy’n uwch na’r uchafswm

• Dylai’r cyllid cyfalaf gefnogi sefydliadau i gyrchu, storio a dosbarthu rhagor o fwyd o ansawdd da gan gynnwys cyflenwad da o fwyd sydd dros ben, yn benodol, mwy o fwydydd ffres gan gynyddu capasiti sefydliadau i ddarparu bwyd maethlon, o ansawdd da i’w cwsmeriaid.

Gall gael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i ddiwallu anghenion y sefydliad, er enghraifft, ond nid yn gyfyngedig i: brynu oergelloedd, rhewgelloedd ac offer coginio. Gall y grant hefyd gael ei ddefnyddio i dalu am gostau coginio.

• Gall y cyllid refeniw gael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n addas ar gyfer anghenion y sefydliad. Gall gynnwys cyllido a gweithio â sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a chymdeithasau tai. Gweler yr atodiadau am enghreifftiau o brosiectau cymwys y gellir eu datblygu.

Gall gael ei ddefnyddio, er enghraifft i ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer mentrau fel gwaith allgymorth ac adeiladu ar wydnwch cymunedol trwy waith clwstwr a datblygu hybiau banc bwyd sy’n dwyn nifer o wasanaethau ynghyd.

Dylai pob cais sy’n cael ei gyflwyno ar gyfer Grant Tlodi Bwyd gefnogi’r nod

ymdrin â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd. Mae’n rhaid i’r prosiect fod o fudd i breswylwyr Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a chyflawni un neu ragor o’r themâu oddi fewn i fesuriadau ac amcanion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer y defnydd o’r grant:

‘Gweledigaeth y Cyngor o Ferthyr Tudful’:
• i bobl ym Merthyr Tudful gael cyfle a’r dyhead i ddysgu a datblygu eu sgiliau i wneud y gorau o’u potensial
• Cefnogi pobl sy’n byw ym Merthyr Tudful i fwynhau bywyd iachach a gwell ansawdd bywyd
• Mae pobl yn ymweld, yn mwynhau ac yn dychwelyd
• ‘Amcanion Llesiant y Cyngor o Ferthyr Tudful’:

Y Dechrau Gorau i Fywyd
• I blant a phobl ifanc gael y dechrau gorau posib mewn bywyd a bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn ddysgwyr llwyddiannus ac yn unigolion hyderus.

Bywyd Gwaith
• Cefnogi pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni gofynion busnesau a datblygu seilwaith diogel sy’n gwneud Merthyr Tudful yn gyrchfan ddeniadol.
• Llesiant Amgylcheddol

Mae cymunedau’n diogelu, gwella ac yn hybu’n amgylchedd a’n cefn gwlad.
• Byw’n Dda

Grymuso unigolion i fyw bywyd annibynnol yn eu cymunedau lle y maent yn teimlo’n ddiogel a lle y gallant fwynhau iechyd corfforol a meddwl da.

Mae pwrpas y grant hwn yn ymwneud â gwelliant gwasanaethau Tlodi Bwyd fel:

• Gwella’r lefel o gefnogaeth sydd ar gael a gwella’r gwasanaeth ledled y fwrdeistref sirol
• Ymestyn oriau agor i gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau
• Gwella gwerth maethlon y nwyddau sy’n cael eu darparu
• Addysgu’r gymuned am bwysigrwydd maeth da, bwyta’n iach a lleihau gwastraff
• Sefydlu nwyddau cynaliadwy i gwrdd â’r cynnydd disgwyliedig yn y galw

Er mwyn gallu cyrchu’r grant, bydd rhaid i chi ddarparu gwasanaeth cymorth o’r safon uchaf â’r nod o leihau effaith tlodi bwyd ym Merthyr Tudful. Yn gyfnewid, hoffem ddechrau datblygiadau cadarnhaol fel:

1. Cynyddu’r nifer o bobl sy’n derbyn cymorth gennych:
a. Faint o deuluoedd sydd wedi derbyn cymorth?
b. Faint o bobl sengl?
c. Faint o bobl ddigartref sydd wedi derbyn cymorth?

2. Cynnydd o ran faint o fwyd maethlon sy’n cael ei ddarparu gan y gwasanaethau hyn
a. Ffocws penodol ar gynnyrch darfodus nad sydd, o bosibl wedi cael eu darparu o’r blaen

3. Codi ymwybyddiaeth ac addysgu ynghylch bwyd iach, maeth a lleihau gwastraff bwyd
a. Gweler yr atodiadau am enghreifftiau o weithdai
Cyfeiriwch at 2.3 a 2.5 yn y ffurflen gais
Mae’’n RHAID i geisiadau gynnwys polisïau sefydliadol perthnasol fel Iechyd a Diogelwch (e.e. tystysgrifau iechyd bwyd,) datganiad ariannol (yn destun i statws y cais,) Cyfansoddiad neu set o reolau a’u llofnodi. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y rhestr wirio ar ddiwedd y ffurflen gais.

Enghreifftiau o brosiectau cymwys
• Cynllun i gynorthwyo pobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain
• Gweithdai cyllido
• Gweithdai Coginio
• Gweithdai bwydydd iach a maethlon / arweiniad [Eatwell Guide/Canllaw Bwyta’n Dda]

MAE’R CYLLID HWN WEDI CAEL EI DDYRANNU AR GYFER BLWYDDYN ARIANNOL 2019/20 AC NID OES UNRHYW SICRWYDD Y  BYDD YN PARHAU YN Y DYFODOL  

DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU: Dydd Llun 13 Ionawr 2020

SUT MAE YMGEISWYR LLWYDDIANNUS AR GYFER Y GRANT TLODI BWYD YN CAEL EU MONITRO?

Bydd y tîm yn gweithredu ymweliadau monitro yn ystod y prosiect. Bydd yr ymweliadau monitro hyn yn cael eu gweithredu drwy gydol y prosiect, hanner ffordd drwy’r prosiect ac ar ei diwedd, yn ddibynnol ar bob prosiect unigol.

Disgwylir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen fonitro wedi i’r prosiect gael ei gwblhau a chyflwyno copïau o anfonebau, derbynebau ac ati er mwyn cefnogi gwariant y grant.

Mae’n ofynnol i ni gyflwyno gwybodaeth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fydd yna’n anfon adroddiad at Lywodrath Cymru erbyn 31 Ionawr 2020 yn cadarnhau manylion o’r adnodd a ddyranwyd i bob awdurdod a’r gweithgraedd y bydd pob awdurdod yn bwriadu ei ddefnyddio ar ei gyfer ac unrhyw wariant, hyd yn hyn (ac ar beth) sy’n cyflawni’r bwriadau.
Adroddiad cychwynnol a dilyn i fyny yn Ebrill a mis Hydref 2020 a fydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
1. Yr hyn y mae pob Awdurdod Lleol wedi ei wario ar (gyfalaf dwy ffynhonnell / refeniw,)
2. Faint o bobl y maent wedi eu cefnogi
3. Manylion o unrhyw gydweithrediad ag Awdurdodau eraill

ANFONWCH EICH CEISIADAU AT:
DAVID SMITH –
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
CANOLFAN DINESIG
STRYD Y CASTELL
MERTHYR TUDFUL
CF47 8AN

Mae ffurflen gais ar gael yma

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni