Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pedwar o sêr Merthyr yn cael eu henwebu am Wobrau Plant Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Chw 2023
Child of Wales Awards 23

Mae Gwobrau Plant Cymru yn dychwelyd yn fwy ac yn well nag erioed yn 2023 a’u bwriad yw arddangos cyflawniadau pobl ifanc, ledled Cymru gan godi arian tuag at elusennau Cymreig sydd yn cynorthwyo plant: Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith.

Ymysg yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau Plant Cymru mae pedwar o bobl ifanc, arbennig Merthyr Tudful. 

Mae Deryn, Elliot, Issac a Miley wedi cael eu henwebu yn sgil eu penderfynoldeb i oresgyn heriau personol, am eu gwaith diflino ar ran elusennau ac am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae pob un ohonynt yn eu gwneud i’w cymuned. Rydym am roi’r llwyfan i’r pedwar arbennig hwn ac am rannu eu straeon ysbrydoledig.

Deryn (17)
A hithau’n 11 oed, roedd Deryn a’i theulu’n ddigartref. Yn wyneb y profiad erchyll hwn, parhaodd Deryn yn bositif a phenderfynodd ei bod am dreulio’i bywyd yn helpu eraill. 

Yn 2017, derbyniodd y newydd trist fof ffrind iddi a oedd yn gystadleuydd Jiwdo i’r Gymanwlad yn marw o diwmor ar yr ymennydd. Ysgogodd hyn lawer o waith elusennol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gamp. 

Mae Deryn bob amser yn meddwl am eraill ac er ei bod yn dioddef o ASD, mae’n rhoi o’i hamser i eistedd ar fwrdd Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid Genedlaethol a Chwaraeon Anabledd Cymru yn ogystal â Phanel Ieuenctid Chwaraeon a Chynhwysiant Cymru a Phanel Amrywiaeth ac Ethnigrwydd Jiwdo Prydain.   

Mae Deryn yn ddeiliad Llysgennad #Felmerch (merched mewn chwaraeon yng Nghymru) ac mae’n gefnogwraig frwd o’r gymuned LGBTQ+


Elliot (11)
Mae Elliot bob amser wedi bod yn benderfynol ei fod am gynorthwyo eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Pan glywodd y newydd trist fod ei Fam-gu yn dioddef o ganser y coluddyn, roedd Elliot am helpu.


Gosododd her iddo’i hun ac yn ystod Mehefin 2022, seiclodd 157 o filltiroedd er cof am ei Fam-gu a chododd £1,600 tuag at ganser y coluddyn.

Cafod ei enwebu ar gyfer y wobr hon gan Ysgol Gynradd Edwardsville gan ei bod wedi’i rhyfeddu gan ei waith elusennol a’r ffaith ei fod yn wir seren.

Isaac (3)
Cafodd Isaac a’i efail eu geni’n gynnar, yn 28 wythnos. Treuliodd 6 mis cyntaf ei fywyd yn yr Uned Gofal Dwys. Mae wedi brwydro’n galed gan oresgyn nifer o broblemau meddygol a heriau a oedd yn cynnwys cael ei fwydo drwy diwb, clefyd yr ysgyfaint a chael 5 twll y ei galon. Mae wedi parhau i frwydro yn ystod yr amseroedd caled. 

Derbyniodd deulu Isaac y newyddion trist na fyddai, o bosib yn gallu cerdded ond trwy gryfder a phenderfynoldeb, cymrodd ei gamau cyntaf ar Ddydd Calan ac yntau’n ddwy oed. Penderfynodd y teulu ddynodi’r achlysur drwy gerdded 1km ar gyfer Parlys yr Ymennydd Cymru gan godi dros £1,500 i’r elusen.

Mae’n fachgen dewr, penderfynol sydd, er gwaetha’r heriau yn parhau’n gadarnhaol a hapus gan lonni pawb sydd o’i amgylch. Mae Isaac yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynamseroldeb, anabledd ac afiechyd ymhlith plant ifanc.

Dymunwn yn dda i Isaac â’i lawdriniaeth ar ei galon.   

Miley (12)
Mae Miley yn ferch fach anhygoel sydd yn byw ag awtistiaeth, ADHD ac mae ganddi anhwylder prosesu synhwyriad.

Er ei bod yn dioddef o or-bryder mae Miley’n benderfynol ei bod am ffynnu ac mae bob amser yn meddwl am eraill, hyd yn oed os yw ei heriau personol yn anferthol. 

Wedi blynyddoedd o fwlio ac o glywed fod ei Thad-cu yn dioddef o ganser, mae Miley wedi parhau i roi o’i hamser a’i hegni i gynorthwyo eraill. Mae’n llysgennad balch o awtistiaeth ac roedd yn allweddol yn annog ysgolion Merthyr Tudful i gefnogi a hyrwyddo Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth.

Yn ogystal â’r cyflawniadau gwych hyn, bu’n codi arian tuag at ffoaduriaid Wcráin ac at Ymchwil Canser, er cof am ei Thad-cu.


Bydd y seremoni yn cael ei chynnal Ddydd Gwener, 24 Mawrth 2023 yn Mercure Holland House Hotel, Caerdydd.
Home | Child of Wales Awards (nationalchildrenofwalesawards.org) <https://www.nationalchildrenofwalesawards.org/>

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni