Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Paent am Ddim yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu Dowlais
- Categorïau : Press Release
- 30 Ebr 2019

Mae paent am ddim ar gael ar gyfer preswylwyr y Fwrdeistref Sirol o CGCacA Dowlais.
Mae’r paent ar gael yn Adran Ailddefnyddio’r safle gerllaw’r banciau tecstilau.
Mae paent yn cael ei storio yn ôl math a dim ond y paent a fydd ar gael ar y safle yn ystod cyfnod ymweliad y preswylydd fydd ar gael i’w gasglu. Ni eillir archebu’r math, y lliw na’r nifer o flaen llaw. Dylai unrhyw unigolyn a hoffai fanteisio ar y gwasanaeth hwn sy’n rhad ac am ddim hysbysu aelod o’r staff cyn cael mynediad i’r adran ailddefnyddio paent.
P’un ai bod gennych waith DIY bach neu fawr, hoffem eich croesawu i gymryd mantais o’r gwasanaeth hwn a lleihau’r niferoedd o baent, sydd o ansawdd da sy’n cael ei ddyddodi!
Nodwch na fydd y gwasanaeth ar gael yn CGCacA Aberfan.