Ar-lein, Mae'n arbed amser

Siopwyr Merthyr Tudful yn cael parcio am ddim ar benwythnosau’r Dolig

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Tach 2021
Free Christmas parking

Unwaith eto eleni, mae gan bobl reswm ychwanegol i wneud eu siopa Dolig ym Merthyr Tudful wrth inni gyflwyno parcio am ddim yng nghanol y dref ar benwythnosau, gan ddechrau ddydd Sadwrn (13 Tachwedd).

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ac Ardal Gwelliant Busnes Calon Fawr Merthyr Tudful yn annog pobl i fanteisio ar y cynnig i barcio am ddim ym mhob un o’r meysydd yng nghanol y dref, a hynny ar bob dydd Gwener a Sadwrn tan 3 Ionawr 2022 - mae dydd Sul eisoes yn rhad ac am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Llywodraethu: “Mae ein siopau a’n busnesau yng nghanol y dref yn dal i adennill tir yn sgil y cloeon a gafwyd yn ystod y pandemig, ac maen nhw angen ein holl gefnogaeth i lwyddo dros y Nadolig.

“Gan na fydd rhaid poeni am ba mor hir y gallan nhw dreulio yng nghanol y dref cyn dychwelyd i’w cerbydau, gall siopwyr ymlacio a mwynhau ein hamrywiaeth eang o siopau, caffis, tafarndai a bwytai.”

Dywedodd Huw Williams, Cadeirydd yr Ardal Gwelliant Busnes: “Mae Calon Fawr Merthyr Tudful yn falch iawn o fod wedi sicrhau parcio am ddim ar bob dydd Gwener a Sadwrn o 13 Tachwedd i ddydd Llun 3 Ionawr. Rydyn ni’n gweld hyn fel rhywbeth hynod o bositif a fydd yn annog siopwyr ac ymwelwyr i ddod i’r dref adeg yr Ŵyl.”

  • Sylwch: bydd yn rhaid i yrwyr sydd fel arfer yn talu gyda ffôn symudol newid i’r ap PayByPhone o ddydd Llun nesaf, 15 Tachwedd, neu mi gân nhw docyn parcio. Gallwch lawrlwytho’r ap o’r App Store neu Google Play Store: Merthyr Tydfil - PayByPhone | Park with PayByPhone

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni