Ar-lein, Mae'n arbed amser

Parcio Nadolig am ddim dros y penwythnos i siopwyr Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Tach 2020
Free Christmas parking (1)

Mae preswylwyr Merthyr Tudful yn cael eu hannog i siopa yn lleol y Nadolig hwn ac i’w hysgogi bydd parcio am ddim dros y penwythnos o ddydd Gwener tan ddiwedd y flwyddyn.

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a Chalon Fawr Ardal Gwella Busnes Merthyr Tudful yn annog pobl i fanteisio ar barcio am ddim yn holl feysydd parcio canol y dref bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul o 13 Tachwedd tan 31 Rhagfyr.

Dywedodd Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Llywodraethu, y Cynghorydd Andrew Barry: “Mae ein siopau a busnesau canol y dref – fel y rhai ledled y wlad – wedi dioddef yn fawr eleni.

“Nod y parcio am ddim yw hybu’r economi leol drwy gynyddu masnach a chefnogi cyflogaeth yn y dref. Ein gobaith yw drwy beidio â gorfod talu am barcio neu gyfyngu ar amser aros yng nghanol y dref, gall siopwyr ymlacio a mwynhau ein hamrywiaeth eang ac amrywiol o siopau, caffis, tafarndai a thai bwyta.”

Dywedodd Huw Williams, Cadeirydd Calon Fawr Ardal Gwella Busnes Merthyr Tudful,: “Bu eleni’n amser hynod o anodd i’n manwerthwyr a busnesau lletygarwch, ac mae gwir angen rhywbeth ar ein preswylwyr i edrych ymlaen ato.

“Rydym yn annog ein preswylwyr i ‘siopa’n ddiogel, siopa’n lleol, siopa ym Merthyr’ dros gyfnod y Nadolig.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni