Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bydd derbyn llai o arian yn arwain at gwtogi sesiynau nofio am ddim ym Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 18 Hyd 2019

Mae’r nifer o sesiynau nofio am ddim i bobl sy’n hŷn na 60 a phobl ifanc sy’n 16 ac yn iau ym Merthyr Tudful yn cael ei gwtogi o fis Tachwedd yn sgil haneru swm yr arian ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru.
O ganlyniad i ganfyddiad adolygiad Cymru-eang nad yw’r fenter genedlaethol nofio am ddim yn gost effeithiol, o 1 Tachwedd, bydd gan bobl dros 60 yr hawl am ddwy sesiwn am ddim yr wythnos yn unig, a bydd y rhai o dan 16 yn eu cael dros benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r haf yn unig.
“Bu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gysylltiedig â chynllun Llywodraeth Cymru ers iddo ddechrau yn 2003,” dywedodd Aelod Cabinet Merthyr Tudful dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas.
“Y mae wedi newid dros y blynyddoedd diweddar o’r polisi cychwynnol o agor y drysau i bawb at ymagwedd sy’n canolbwyntio’n fwy at ddynodi ac annog pobl sydd â gwir angen i gyfranogi o’r cynllun,” ychwanegodd.
“Mae hyn wedi golygu ein bod ni wedi ceisio annog preswylwyr o’r cymunedau mwyaf difreintiedig i wneud mwy o ddefnydd ohono, ynghyd â phobl ifanc na all nofio’n annibynnol erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 – ond cyfyngedig o ran llwyddiant oedd hyn. Felly, yn anffodus, does dim gwelliant wedi bod yn y lefelau o allu dyfrol yn y fwrdeistref sirol.”
Canfu’r adolygiad gan Chwaraeon Cymru fod y nifer o bobl ifanc a oedd yn defnyddio’r cynllun nofio am ddim ledled Cymru wedi disgyn ers chwe blynedd – ac mai dim ond 6% o bobl dros 60 oed oedd yn ei ddefnyddio.
Ar hyn o bryd, mae plant Merthyr Tudful sy’n 16 ac iau yn cael 21 awr yr wythnos o sesiynau rhestredig am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol.
I’r rhai dros 60, mae’r cynllun yn darparu sblash am ddim drwy gydol y flwyddyn ac un awr yr wythnos o aerobig dyfrol.
O dan y rhaglen newydd, bydd pobl ifanc iau na 16 yn cael:
• un awr am ddim o sblash ddydd Sadwrn yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful
• un sblash am ddim ddydd Sul yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan ac Ynys Owen
Bydd pobl sy’n 60 ac yn hŷn yn cael:
• un awr am ddim o sblash ddydd Mawrth ac un awr o weithgaredd strwythuredig ddydd Iau yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful
• un awr o sblash ddydd Mercher ac un awr strwythuredig ddydd Llun yng Nghanolfan Gymunedol Aberfan ac Ynys Owen
“Wrth weithio mewn partneriaeth ag ysgolion gwyddom fod gennym y cyfle i helpu pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau fel cost a mynediad at drafnidiaeth sy’n eu hatal rhag nofio,” dywedodd y Cynghorydd Thomas.
“Rydym yn flin o golli hanner yr arian oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond gobeithiwn y bydd y cynllun diwygiedig hwn yn defnyddio’r gweddill yn effeithiol ac yn targedu’r sawl sydd ei angen fwyaf.”
Dywedodd Rheolwr Datblygu Hamdden, Diwylliant a Chwaraeon y Cyngor, John Sellwood, y byddai swyddogion yn ystod y chwe mis cyntaf o’r amserlen newydd yn monitro’r ymateb ac yn ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd am y newidiadau.
“Rydym yn awyddus i bwysleisio fod y newidiadau yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, ac nad penderfyniad yr awdurdod lleol nac Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful ydyw,” ychwanegodd.