Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae manwerthwr dodrefn yn goresgyn Covid-19 wrth i’w fusnes dyfu a gwella

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Gor 2020
Bourne Home Furniture

Mae busnes teuluol Chris Bourne yn gwerthu dodrefn ym Merthyr Tudful, ac nid yn unig y mae wedi llwyddo i oroesi her y Coronafeirws, ond mae hefyd wedi gallu dod drwyddo’n gryfach nag o’r blaen.

Mae Bourne Home Furniture wedi symud o’i leoliad blaenorol yn y farchnad dan do yng Nghanolfan Siopa St Tudful, i adeilad llawer mwy ar Ystad Ddiwydiannol Pant. Mae hefyd wedi buddsoddi mewn mwy o stoc ac wedi cynyddu cyflogau’r staff a roddwyd ar ffyrlo i 100%.

Llwyddodd Chris i wneud hyn gyda chymorth y Grant Cyfraddau Annomestig (NDR) gwerth £10,000 a gyflwynwyd yn sgil Covid-19 gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon. Agorwyd y warws newydd yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Bwrdeistref y Sir, y Cynghorydd Kevin O’Neill.

Yn wreiddiol, cyflogwyd Chris, 29 oed, fel is-gontractwr ar y rheilffyrdd. “Ar ôl blynyddoedd o weithio i ffwrdd ac ar batrymau shifft lletchwith, roeddwn i eisiau newid a threulio mwy o amser gartref gyda’r teulu, felly penderfynais i weithio ar fy liwt fy hun,” meddai. “Fe wnes i arbed rhywfaint o arian a mynd amdani.”

Dechreuodd ef a’i ddyweddi Shannon y busnes yn 2018 ac erbyn hyn, maen nhw’n cyflogi tri aelod arall o staff. “Maen nhw wedi’u rhoi ar ffyrlo yn ystod y cyfnod clo ac rydyn ni’n gobeithio’u croesawu nhw’n ôl i’r gwaith yn fuan.

“Fe wnaeth y grant NDR ein helpu ni i dalu’r staff a chynyddu’u cyflogau hyd at 100%, gan osgoi unrhyw anhawster i’w bywydau nhw a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”

Ychwanegodd Chris: “Er ein bod ni wedi gallu parhau i fasnachu trwy ein gwasanaeth ar-lein pan oedd Covid-19 ar ei waethaf, fe gawson ni gymorth hefyd gyda’r symud gan roi cyfle inni fuddsoddi mewn llinellau stoc newydd a llenwi’r uned newydd yn gyflymach na’n bwriad gwreiddiol.”

Mae Bourne Home Furniture yn fusnes teuluol ym mhob ystyr o’r gair. Mae brawd Chris, sef Adam yn ddylunydd graffig ac yn gweithio ar wefan y cwmni, ac mae ei chwaer Kelly yn helpu trwy hysbysebu cynhyrchion ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae ei feibion Leo a Cohen hefyd yn ymuno â’r gwaith: mae Leo yn chwe blwydd oed ac yn mynd yn aml gyda’i dad wrth iddo gludo nwyddau i gwsmeriaid. Mae’n goleuo eu hwynebau gyda’i gymeriad ac yn aml yn cael losin neu siocled fel tip am ei gymorth. Mae Cohen yn ddwy flwydd oed ac yn helpu’i fam yn y siop trwy “ei chadw ar flaenau’i thraed ac ennyn diddordeb y cwsmeriaid”.

“Ers i ni gychwyn y busnes bron i ddwy flynedd yn ôl, rydyn ni wedi cael cefnogaeth barhaus gan Gyngor Merthyr trwy wahanol ddulliau a chan wahanol adrannau,” meddai Chris.

“Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir wrth inni geisio dod o hyd i adeiladau mwy o faint ar ôl i’n stondin yn y farchnad fynd yn rhy fach i ni yn sydyn. Mae agor yn y man lle’r ydyn ni nawr, gyda help a chefnogaeth y grant, wedi bod yn wych.”

Dywedodd y Cynghorydd O’Neill: “Nid yn unig y mae’n wych bod Bourne Home Furniture wedi llwyddo i oroesi storm y Coronafeirws gyda chymorth Llywodraeth Cymru a’r Cyngor, mae’n wych hefyd fod y busnes yn mynd o nerth i nerth.

“Rwy’n dymuno llwyddiant parhaus i Chris ac edrychaf ymlaen at weld Bourne Home Furniture yn blodeuo yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael, e-bostiwch economicdevelopment2@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni