Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cadw’n heini wrth fwynhau golygfeydd hyfrytaf Merthyr mewn gŵyl awyr agored
- Categorïau : Press Release
- 24 Mai 2019
Bydd gŵyl awyr agored fis nesaf yn cyflwyno pobl i gefn gwlad fwyaf godidog Merthyr Tudful, o sesiynau blas ar ffitrwydd i weithgareddau mwy egnïol, teithiau cerdded addysgiadol a hyd yn oed casglu sbwriel wrth loncian.
Bydd pedwaredd ŵyl Neidio Reidio a Mwy Merthyr Tudful o 16-29 Mehefin yn rhoi’r cyfle i bobl roi cynnig ar orchwylion mwy newydd fel sesiynau rhedeg gyda bygi a ‘Plogio’ - neu ‘eco-gerdded’. Ond bydd cyfle hefyd i gyfranogi mewn chwaraeon mwy confensiynol fel cerdded, nofio a seiclo gyda grwpiau sefydledig.
Mae’r ŵyl yn para 10 niwrnod ac yn fenter ar y cyd rhwng y Cyngor Bwrdeistref Sirol, Heini Merthyr Tudful a Fforwm Neidio Reidio a Mwy Merthyr Tudful – a gafodd ei ffurfio yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf yn 2017.
Ymhlith y gweithgareddau eraill mae Cerdded Nordig, Parkrun Merthyr Tudful, teithiau tywys ar feic, teithiau cerdded i warchodfa natur a’r mynydd, teithiau tywys ar drywydd hanes canol y dref, gan orffen gyda ras gymdeithasol 2K a 5K i’r teulu.
Dywedodd Prif Swyddog Adfywio Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Alyn Owen: “Mae Gŵyl Neidio Reidio a Mwy yn mynd o nerth i nerth, gyda diwrnod ychwanegol a hyd yn oed rhagor o ddigwyddiadau eleni.
“Y mae’n ffordd ffantastig o ddod â gwirfoddolwyr at ei gilydd o nifer o glybiau chwaraeon ledled Merthyr Tudful ac aelodau newydd arfaethedig o blith y cyhoedd, gan alluogi pawb i werthfawrogi harddwch ein rhwydwaith helaeth o lwybrau a gwagleoedd agored eraill ar yr un pryd.”
Am wybodaeth bellach a chopi papur o’r amserlen, cysylltwch â merthyrstride@gmail.com neu ffoniwch 01685 726270.