Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pobl ifanc Glynmil yn creu gwrogaeth i ddioddefwyr Holocost Sipsi/Roma

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Chw 2023
Glynmil Holocaust artwork

Mae pobl ifanc o Barc Carafanau Glynmil Merthyr Tudful wedi cofio am fywydau dioddefwyr Holocost Sipsi/Roma a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd trwy greu gosodiad celf addysgiadol a fydd yn cael ei arddangos mewn digwyddiadau ac adeiladau ar draws y DU.

Mae’r gwaith celf, a fu’n rhan o wasanaeth coffadwriaeth a gynhaliwyd yn Eglwys y Plwyf Santes Tudful ar hyn o bryd yn y Llyfrgell Ganolog a bydd yn cael ei arddangos mewn digwyddiadau eraill cyn teithio i’r Senedd i Ddiwrnod Cofio Holocost y Roma ym mis Awst.

Arianwyd y project gan Grant Cefnogaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru, ac a arweiniwyd gan Kate Strudwick, Cyfarwyddwr Creadigol Head4Arts, y cerflunydd Cindy Ward a’r artist digidol Natasha James.

Wedi ei enwi yn 'Myrdd o sêr yn gweld Duw', mae’r cynllun ar ffurf cerflun o galon wedi ei greu o bibenni copr a gwifren gyda sail olwyn cert o haearn.

Mae pob un o’r sêr yn cynrychioli'r 10,00 o bobl Sipsi/Roma a laddwyd gan y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd, gyda’r bobl ifanc yn cael eu hysbrydoli gan eiconograffig Sipsi/ Teithwyr i addurno’r sêr. Mae hefyd codau QR sy’n rhoi gwybodaeth bellach fel rhan o’r cerflun.

Dwedodd Lillie Bramley rheolwr safle Glynmil: “ Mae Head4Arts, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni ers llawer blwyddyn, wedi arwain y project pwysig hwn i greu gosodiad celf sensitive ond prydferth.

“Diolch arbennig i Kate Strudwick, am ei hymroddiad i weithio gyda’r gymuned sy’n cael effaith anferthol. Hefyd i’r bobl ifanc am eu gwaith caled: Jamie, Lily, Lisa-Marie, Missy, Obi, Precious, Ria, Rhianna, Sadie, Vienna, Wesley P, Wesley W a Willie Boy.”

• Mae Parc Carafanau Glynmil ym Mhentrebach wedi bod yn safle preswyl i Sipsiwn/Teithwyr ers 1977. Yn 2020, arwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful les 80 mlynedd i gymryd cyfrifoldeb am reoli’r safle, a dyfarnwyd Grant Cyfalaf Safle Llywodraeth Cymru o £500,000 i adnewyddu pob un o’r 24 bloc amwynder ar y tir 8.3 acer.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni