Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Grantiau ar agor nawr ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Rhag 2020
Discretionary grants scheme

Mae busnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch lleol yn cael eu hannog i wneud cais am gefnogaeth oddi wrth Gronfa Busnesau dan Gyfyngiadau Llywodraeth Cymru, gwerth £160m.

Mae’r rhaglen ym Merthyr Tudful nawr ar gael, a bydd yn gweld busnesau a masnachwyr unigol sydd wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol o ganlyniad i gyfyngiadau presennol Covid-19 yn derbyn taliadau o £2,000.

Mae Grant Cronfa Busnesau yn ôl Disgresiwn ar gael i gynorthwyo busnesau syddwedi:

  • Cael eu gorfodi i gau o ganlyniad i gyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd mewn lle ar gyfer busnesau lletygarwch.
  • Bydd y grant hefyd yn cefnogi busnesau cadwyn sy’n gysylltiedig â’r sectorau lletygarwch a rhai busnesau manwerthu sy’n amcangyfrif fod y cyfyngiadau diweddaraf a osodwyd mewn lle am arwain at ostyngiad o 40% o leiaf o ran trosiant ar gyfer mis Rhagfyr 2020 o’i gymharu â mis Rhagfyr 2019 (neu drosiant mis Medi 2020 os nad yn masnachu ym mis Rhagfyr 2019)

Ar gyfer eiddo hunan arlwyo, mae disgresiwn llwyr gan awdurdodau lleol i ofyn am, ac archwilio cyfrifon busnes masnachu, rhestrau archebu a ffurflenni treth hunanasesu i’r CThEM ar gyfer y flwyddyn ariannol yn gorffen 31 Mawrth 2019 os yw’n ofynnol cael tystiolaeth ychwanegol i arddangos nad yw’r maen prawf hwn yn cael ei ddiwallu.

Mae meini prawf cymhwyso ar gyfer y grant yn cynnwys: 

  • Roedd busnesau’n masnachu cyn 1 Medi 2020
  • Rhaid bod gan fusnesau un neu fwy o’r canlynol
    • Rhif Unigryw Trethdalwr CThEM
    • Rhif Cofrestru TAW neu dystysgrif eithrio TAW (os yw’n gymwys)
    • Rhif Cofrestru Cwmni (os yw’n gymwys)
    • Rhif trwydded Cerbyd Hacni neu rif trwydded preifat minicab (os yw’n gymwys)
  • I fusnesau sy'n gwneud cais cyn diwedd mis Rhagfyr, bydd rhaid i ymgeiswyr hunan-ddatgan bod cwymp mewn trosiant o >40% ers 4 Rhagfyr nes diwrnod y cais
  • Cwmni cyfyngedig â throsiant o rhwng £10,000 a £50,000
  • Masnachwyr unigol / partneriaethau â throsiant sy’n llai na £85,000
  • Rhaid i’r busnes fod yn brif ffynhonnell incwm (>50%)
  • Rhaid i fusnesau a gefnogir anelu at gynnal cyflogaeth am 12 mis

Noder os yw eich busnes yn gymwys am Ardrethi Busnes, NI FYDDWCH yn gymwys am Grant yn ôl Disgresiwn.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Gyllid a Llywodraethu y Cynghorydd Andrew Barry: “Diben y grant hwn yw darparu cefnogaeth llif arian i fusnesau a’u helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau a gyflwynwyd.

“Mae'r ffurflen gais yn syml iawn -- os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â fi.”

Bydd ceisiadau’n cael sylw ar sail y cyntaf i’r felin. Gallai hyn arwain at geisiadau’n peidio â chael eu harfarnu ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw’r gronfa wedi ei hymrwymo’n llwyr. Caiff ymgeiswyr eu hysbysu am hyn drwy e-bost.

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni