Ar-lein, Mae'n arbed amser
Annog grwpiau i geisio am gyllid projectau Celfyddyd Gymreig
- Categorïau : Press Release
- 02 Chw 2022
Grwpiau cymunedol Merthyr Tudful -ac yn enwedig rhai sy’n rhan o brojectau Cymraeg a diwylliant Cymreig - Fe’ch anogir chi i geisio am gyllid o hyd £5,000 o gynllun grantiau lleol.
Sefydlwyd Cronfa Gymunedol Ffos y Fran gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol mewn cydweithrediad gyda chwmni cloddio lleol Merthyr (De Cymru) Cyf.
Mae’n rhoi £1 am bob tunnel o lo a werthir o gynllun Adennill Ffos- y Fran, ac ers ei agor yn 2007, mae mwy na £6 miliwn wedi ei ddyfarnu i amrywiaeth o grwpiau ac achosion da.
Dwedodd Pencampwr Iaith Gymraeg y Cyngor, y Cyng. Geraint Thomas: “ Wrth groesawu ceisiadau gan bob grŵp lleol, yn amgylcheddol, addysgiadol neu hamdden, byddem yn croesawu ceisiadau gan grwpiau sy’n rhan o hybu’r Gymraeg a’i diwylliant.
“Mae diddordeb yn y Gymraeg yn cynyddu fesul blwyddyn ym Merthyr Tudful ac mae’r Cyngor yn awyddus i hybu’r twf trwy gefnogi mentrau sy’n hybu’r Gymraeg.” Ychwanegodd.
Bwriad rhaglen gyllido Ffos-y-fran yw creu economi gref, gynaliadwy ac amrywiol, gan gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd, wrth annog bywyd iach ac iechyd corfforol.
Clybiau a sefydliadau a elwodd o arian yn 2021 oedd: Clwb Canŵ Aberfan ,CPD Baili Glas, Clwb Bechgyn a Merched Georgetown, Clwb Pêl droed y Gurnos, Clwb Pêl Droed Cymunedol Y Llew Coch Heolgerrig, CP Seintiau Merthyr, Rygbi Ysgolion Merthyr, Clwb Triathlon Merthyr a Chlwb Nofio Merthyr Tudful.
Mae grantiau ar gyfer cyllid/ cyfalaf ac mae angen arianu cyfatebol ar gyfer y Gronfa Ganolog, un ai mewn arian neu gyfraniad mewn nwyddau.
Applications are open from Wednesday 2 February and will close on Wednesday 16 February.
For further information or an intermediate application form please go to our webpage https://www.merthyr.gov.uk/resident/regeneration/ffos-y-fran-community-fund/ or contact the Ffos-y-fran Benefit Fund Coordinator on 01685 726225 or ffosyfran@merthyr.gov.uk