Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Gwella Ysgol Gynradd Gwaunfarren – DIWEDDARIAD
- Categorïau : Press Release , Schools
- 21 Hyd 2020
Mae’r Contractwr, Griffiths, wrthi’n symud ymlaen at gam olaf y gwaith a fydd yn cynnwys rhoi wyneb newydd ar ddarn o Rodfa Alexandra.
Caiff y gwaith hwn ei gyflawni rhwng dydd Gwener 23 a dydd Iau 29 Hydref.
Caiff y ffordd ei pharatoi ar gyfer gosod wyneb newydd yn ystod y dydd, ddydd Gwener 23 Hydref gyda’r system golau traffig 2 ffordd dros dro cyfredol mewn lle.
Caiff wyneb newydd y ffordd ei gosod ar 26 a 27 Hydref a gosodir llinellau gwyn a chlustogau cyflymder ar 28 a 29 Hydref rhwng 07.30 a 17.00. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni tra bo’r ffordd ar gau dros dro a bydd llwybrau dargyfeirio yn glir ar yr arwyddion.
Gofynnwn yn barchus i chi beidio â pharcio yn yr ardaloedd hyn tra bo’r gwaith yn digwydd. Caiff mynediad i gerbydau ei gyfyngu yn ystod oriau cau’r ffordd dros dro, fodd bynnag, gellir eich sicrhau y bydd mynediad i eiddo a busnesau’n parhau ar agor.
Noder y bydd y gwaith hwn yn ddibynnol ar y tywydd.