Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgol Gynradd Gwaunfarren Gwybodaeth am Ddiogelwch ar y Ffyrdd

  • Categorïau : Education , Schools
  • 04 Medi 2020
Gwaunfarren PS logo

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo yn Ysgol Gynradd Gwaunfarren i wella diogelwch ar ffyrdd yr ardal, gyda’r nod penodol o’u gwneud yn fwy diogel i ollwng a chasglu plant.

Er mwyn lleddfu pryderon ynghylch diogelwch y ffyrdd yn ystod y gwaith hwn, caiff y mesurau canlynol eu rhoi ar waith o ddydd Llun 7 Medi ymlaen:

  • Bydd Hebryngydd Croesfan Ysgol yn cael ei leoli ar Rodfa Alexandra rhwng 8:20am a 9:05am a rhwng 2:50pm i 3:30pm bob dydd i sicrhau man croesi diogel.
  • Mae Cadeirydd Clwb Penydarren wedi bod mor garedig â chaniatáu defnydd o’i faes parcio ar gyfer “Parcio a Cherdded”. Bydd y gatiau ar agor bob dydd o 8:30am.

Os nad oes gennych unrhyw ddewis heblaw gyrru’ch plentyn i’r ysgol, dylech barcio yng Nghlwb Penydarren a cherdded ar hyd Rhodfa Alexandra tuag at ein Hebryngydd Croesfan Ysgol, a fydd yn sicrhau man croesi diogel ar eich cyfer.

Bydd arwyddion ar gael i’ch tywys chi, yn ogystal â Heddlu’r Gymdogaeth a Swyddogion y Cyngor Lleol.

At hynny, byddem bob amser yn gofyn i rieni, preswylwyr a’r rhai sy’n teithio trwy’r ardal yn ystod amseroedd ysgol:

  • os gallwch chi a’ch plentyn gerdded i’r ysgol, gwnewch hynny;
  • os oes rhaid ichi yrru’ch plentyn i’r ysgol, parciwch yn ddiogel ac yn gyfreithlon;
  • os ydych chi fel arfer yn gyrru trwy’r ardal hon yn ystod amseroedd ysgol, defnyddiwch lwybr arall lle bynnag y bo hynny’n bosibl.

Ein prif flaenoriaeth, bob amser, yw cadw’r plant yn ddiogel.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni