Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dweud eich dweud! Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop ddydd Iau, 23 Mai.
- Categorïau : Press Release
- 29 Ebr 2019

Mae gan breswylwyr hyd at ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr.
Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher, 8 Mai (5.00pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dydd Mercher, 15 Mai (5.00pm)
Dywedwyd Ellis Cooper Y Dirprwy Swyddog Canlyniadau Lleol:
“Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.
“Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”
Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01685 725284
Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru:
https://www.merthyr.gov.uk/council/voting-and-elections/upcoming-elections/