Ar-lein, Mae'n arbed amser

Bydd canolfan yng nghanol y gymuned yn dod â gwasanaethau i breswylwyr

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Medi 2019
Calon Las English

Mae canolfan gymunedol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau hanfodol yr oll o dan yr un to yn agor yn y Gurnos, Merthyr Tudful, y dydd Iau hwn (12 Medi).

Gwelwyd ailwampio gwerth £40,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru yn Hwb Cymunedol Calon Las, Lon Castan, gan ei droi’n fan cyfarfod ar gyfer grwpiau cymunedol – yn ogystal â safle ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf a gwasanaethau Dechrau’n Deg, gwasanaethau cyflogaeth Cymunedau am Waith a Mwy a Thai Cymoedd Merthyr.

Bydd hefyd yn gartref i sesiynau galw heibio am bynciau fel mynediad at TG, gwasanaethau iechyd, cefnogi tenantiaeth a gwasanaethau cyflogaeth; a gwasanaethau allgymorth gan gynnwys Cefnogi Dementia, Rhwydwaith Cefnogi Rhieni, Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth, Dysgu Cymunedol i Oedolion, rhoi’r gorau i ysmygu, Ymddiriedolaeth Cŵn, PACT (Police and Communities Together) a chyngor ar Gredyd Cynhwysol a gwirfoddoli.

Cafodd arian grant ei sicrhau oddi wrth Raglen Canolfannau Dysgu’r 21 ganrif Llywodraeth Cymru ar gyfer siop goffi gymunedol ble gall preswylwyr lleol gwrdd a chymdeithasu, a darganfod rhagor am wirfoddoli a chyfleoedd dysgu sgiliau. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo a disgwylir iddo orffen erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mae’r ganolfan yn un o ddau brosiect peilot sy’n gweithredu yn ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, y llall yw Rhondda Cynon Taf.

“Mae Hwb Cymunedol Cwm Taf yn ymagwedd ranbarthol at ddatblygu parthau cymunedol”, dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful y Cynghorydd Kevin O’Neill. “Bydd yn dod â’r gymuned a gwasanaethau ynghyd fel un a’r nod yw yn bennaf i wella deilliannau i blant a phobl ifanc, ond hefyd i bob aelod o’r gymuned.

“Cafodd y datblygiad hwn ei gyflawni drwy ymagwedd bartneriaeth rhwng sectorau statudol, cyhoeddus, cynradd a thrydydd a sefydliadau gwirfoddol,” ychwanegodd. “Mae lleoliad y ganolfan yng nghalon y gymuned gan alluogi defnyddwyr i gerdded, gyrru neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno, a darparu canolbwynt yn y Gurnos.”

I ddarganfod rhagor am brosiect Calon Las, cysylltwch â Diane Jones ar 01685 727305, neu e-bostio diane.jones@merthyr.gov.uk

I ddarganfod rhagor am y gwasanaethau sydd ar gael a’r digwyddiad agored cysylltwch â Ceri Samuel ar 01685 358491, neu e-bostiwch ceri.samuel@vamt.net

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni