Ar-lein, Mae'n arbed amser
Helpwch ni i wneud y strydoedd yn fwy diogel
- Categorïau : Press Release
- 26 Awst 2020

Ydych chi’n teimlo’n ddiogel wrth gerdded a seiclo o gwmpas canol y dref? Os nad ydych chi, mae’r Cyngor am roi’r cyfle i chi ddweud wrthym sut y gallwn ni wella pethau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cronfa Drafnidiaeth Gynaliadwy Covid-19 i helpu cynghorau i sicrhau fod mesurau pellhau cymdeithasol mewn lle, yn enwedig yng nghanol trefi.
Yn ystod y pandemig gwelwyd nifer sylweddol o breswylwyr lleol allan yn cerdded neu’n seiclo – un ai wrth hamddena neu i deithio i’r siop neu’r gwaith. Mae Llywodraeth Cymru am i hyn barhau ac mae’n cyflwyno mesurau newydd sy’n gwneud ‘Teithio Llesol’ yn haws a mwy apelgar.
O ganlyniad, mae’r Cyngor wedi derbyn £414,000 oddi wrth Gronfa Drafnidiaeth Gynaliadwy Covid-19 i archwilio cyfleoedd i wella amgylchedd i gerddwyr a seiclwyr yng nghanol y dref ac ardaloedd cyfagos.
Gallai hyn gynnwys rhoi cynnig ar groesfannau newydd i gerddwyr, lleihau’ r lle i gerbydau ar y brif ffordd a chyfyngu mynediad i gerbydau i’r prif ardaloedd i gerddwyr.
Er mwyn cael eich safbwyntiau, mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ar holiadur ar-lein gyda’r elusen i gerddwyr a seiclwyr, Sustrans Cymru gan ofyn am safbwyntiau am bump o leoliadau canol tref, a ffyrdd a chyffyrdd.
Sef cylchfannau Caedraw a Tesco, Stryd y Llys, Stryd Fictoria a’r Stryd Fawr. Mae’r arolwg yn gofyn cwestiynau fel pa mor ddiogel ydy pobl yn teimlo wrth groesi’r ffyrdd ac a fydden nhw’n teimlo’n fwy diogel gyda llai o draffig wrth y lleoliadau hyn.
Er mwyn cymryd rhan yn yr holiadur, cliciwch y ddolen hon: https://bit.ly/34v4wzw