Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llinell gymorth i helpu hunan-ynysu

  • Categorïau : Press Release
  • 20 Tach 2020
default.jpg

Mae llinell gymorth ranbarthol gyntaf Cymru i helpu pobl sy’n hunan-ynysu wedi cael ei lansio yng Nghwm Taf Morgannwg (CTM).

Mae’r gwasanaeth newydd, sy’n cael ei gynnig 7 diwrnod yr wythnos, wedi cael ei sefydlu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol CTM, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol CTM, Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gall pobl sy’n byw ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont ar Ogwr ffonio’r llinell gymorth i drafod eu pryderon os byddan nhw wedi cael cyngor i hunan-ynysu gan Dîm Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru.

Mae ‘llinell gymorth hunan-ynysu CTM’ wedi cael ei sefydlu ar ôl i adborth gan y Tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn CTM ddangos bod llawer o gwestiynau gyda phobl sy’n byw yn y rhanbarth ynglŷn ag hunan-ynysu a’r cymorth sydd ar gael.

Yn ogystal â hynny, mae sefydliadau ledled y DU yn pryderu y gallai hunan-ynysu roi pobl anabl, pobl sy’n agored i niwed a phobl hŷn mewn perygl. Maen nhw hefyd yn pryderu bod hunan-ynysu’n cael effaith negyddol ar les meddyliol a chorfforol y cyhoedd.

Bydd rhif ffôn ‘llinell gymorth hunan-ynysu CTM’ yn cael ei hanfon drwy neges destun, drwy lythyr neu dros y ffôn i unrhyw un sy’n cael ei olrhain neu unrhyw un sy’n cael prawf positif am COVID-19.

Pan fydd pobl yn ffonio’r rhif, bydd aelod o dîm cyfeillgar y llinell gymorth yn siarad â nhw i gael gwybod pa gymorth sydd ei angen.

Gallai hyn gynnwys cyngor ynglŷn â’r canllawiau diweddar ynghylch COVID-19, dolenni at wybodaeth berthnasol neu gyfeiriadau at wasanaeth cymorth lleol sy’n berthnasol.

Er enghraifft, mae’n bosib cysylltu rhywun o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n teimlo’n unig â gwasanaeth cyfeillio lleol, er mwyn sicrhau bod modd i’r unigolyn hwnnw siarad â rhywun drwy gydol ei gyfnod o hunan-ynysu.

Er bod y llinell gymorth yn wasanaeth i bobl sy’n gorfod hunan-ynysu oherwydd COVID-19, mae llawer o wasanaethau cymorth eraill ledled CTM ar gael i bobl sydd angen cymorth yn ystod y pandemig.

Bydd gofyn i bobl gysylltu â’u Cyngor Gwirfoddol Sirol neu awdurdod lleol i gael gwybod mwy.

Meddai Rachel Rowlands, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae cael prawf positif am COVID-19, neu gael eich olrhain fel cyswllt rhywun sydd wedi cael prawf positif, yn codi pob math o gwestiynau i bobl ac mae’n gallu bod yn sioc.  Mae’r llinell gymorth hunan-ynysu newydd yn rhoi cyfle i bobl sicrhau eu bod nhw’n deall y canllawiau o ran hunan-ynysu ac yn cael y cymorth cywir fel bod modd iddyn nhw hunan-ynysu’n ddiogel, gan ddiogelu eu hunain a diogelu pobl eraill.”

Meddai’r Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae atal yr haint rhag lledaenu yn ein cymunedau yn hanfodol bwysig os ydyn ni am achub bywydau a diogelu’r GIG.

“Mae llawer o waith ac ymchwil wedi cael eu gwneud er mwyn datblygu gwell triniaethau a hyd yn oed brechlyn posibl. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydyn ni’n dal i fod mewn sefyllfa lle mae achosion o COVID-19 yn dal i gylchredeg yn eang, felly os bydd pobl yn cael prawf positif am y feirws neu os ydyn nhw’n dod i gyswllt â rhywun gyda COVID-19, mae’n hollbwysig eu bod nhw’n hunan-ynysu.

“Dydy hunan-ynysu ddim yn hawdd i lawer o bobl, yn enwedig os ydyn nhw’n poeni am brynu bwyd, methu â mynd i’r gwaith neu deimlo’n unig. Mae tîm cyfeillgar iawn yn gweithredu llinell gymorth hunan-ynysu CTM ac maen nhw’n barod i helpu pobl drwy roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnyn nhw, boed hynny’n gwestiynau ynglŷn â’r canllawiau diweddaraf neu wasanaethau lleol.

“Dylai hyn sicrhau i bobl na fyddan nhw ar eu pen eu hunain os bydd angen iddyn nhw hunan-ynysu, ac os bydd angen cymorth ychwanegol, bydd y llinell gymorth gerllaw drwy gydol eu cyfnod o hunan-ynysu.”

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni