Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trawsnewid eglwys hanesyddol i fod yn fflatiau unigryw mewn ailwampiad gwerth £1.35m

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Mai 2019
St John's pic (1)

Cafodd Eglwys Sant Ioan, Dowlais, adeilad rhestredig Graddfa II, a man claddu cyn berchennog Gwaith Haearn Dowlais a’r AS, Syr Josiah John Guest, ei thrawsnewid i fod yn 20 fflat unigryw â chymorth o £500,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth Hannah Blythyn AC, Dirprwy Weinidog ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol, agor prosiect preswyl cyntaf Merthyr Tudful yn swyddogol, yn sgil Rhaglen Adfywio a Thai Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Defnyddiwyd arian Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ynghyd â £850,000 oddi wrth ddatblygwyr lleol, Graft Projects, i adfer to’r adeilad a’r waliau allanol a chwblhau adnewyddiad llwyr o’r tu fewn. Derbyniodd Grafft £150,000 hefyd oddi wrth Gynllun Benthyg Troi Tai'n Gartrefi, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol, sydd ar gael i gynorthwyo perchnogion eiddo gwag â chostau atgyweirio ac ailwampio.

Wedi ei lleoli ar gornel Stryd yr Undeb Uchaf a Rhes yr Eglwys oddi fewn i Ardal Gadwraeth Dowlais, cafodd Eglwys Ioan Fedyddiwr ei hadeiladu ym 1827 a’i chau ym 1997.

Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol, fel ffenestri lliw, distiau pren a theils llawr - a hyd yn oed y pulpud – wedi eu cadw, a bydd aelodau o’r cyhoedd yn parhau i allu cael mynediad i’r adeilad wrth y ddwy brif fynediad i weld y gofeb farmor i Syr Josiah John Guest a dysgu am hanes yr eglwys.

Ymhlith y nodweddion eraill a gadwyd mae ‘Ffenest y Glöwr’, ffenest addurnedig, a gafodd ei hariannu gan deulu Edward Pritchard Martin, Rheolwr Cyffredinol Cwmni Haearn Dowlais. Mae teulu Martin yn gyndeidiau i’r canwr Americanaidd Donny Osmond, a gellir gweld placiau efydd a chofebion i’r teulu o hyd yn yr adeilad.

Disgrifiodd Hannah Blythyn y prosiect hwn fel enghraifft ardderchog o’r buddion mae rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn ei roi i gymunedau. “ Mae’r datblygiad yn sicrhau dyfodol tirnod lleol, yn darparu tai sydd yn fawr ei hangen yn yr ardal a chyflenwi buddion cymunedol gan gynnwys creu swyddi newydd a datblygu cadwyn gyflenwi leol o ran gwaith ar yr adeilad,” ychwanegodd.

“Mae’r prosiect hefyd wedi creu cysylltiadau â sefydliadau lleol fel Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a Llyfrgell Dowlais i amlygu arwyddocâd hanesyddol yr eglwys.”

Dywedodd Cyfarwyddwraig Graft Projects, Emma Thomas: “Mae’r fenter hon wedi rhoi boddhad mawr i ni a’n cyffroi ni fel cwmni. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda thîm adfywio’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a Llywodraeth Cymru yn fawr iawn, a gwnaethant ill dau roi dipyn o gefnogaeth i ni a gwerthfawrogwyd hynny’n fawr.

“Ein nod oedd adfywio’r adeilad hwn, a oedd yn dipyn o her – ond roedd hanes y lle yn ysbrydoliaeth,” ychwanegodd. “Bu’r diddordeb lleol yn anhygoel hefyd, gyda llawer o breswylwyr a chyn-addolwyr yn dod i ymweld yn ystod y gwaith adeiladu.

“Ein nod arall oedd darparu llety byw ardderchog, sef rhywbeth yr ydym yn teimlo ein bod wedi ei gyflawni. Rydym yn meddwl y bydd amrywiaeth y dylunio yn apelio at bob mathau o unigolion a theuluoedd.

“Yn bennaf oll, rydym yn gobeithio fel cwmni ein bod wedi cyfrannu at ein cymuned o ran cyflogaeth, datblygu cyflenwyr a darparu fflatiau ar gyfer bywyd modern.”

Dywedodd Prif Swyddog ar gyfer Adfywio Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful Alyn Owen: “Gwnaeth y Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid helpu’r awdurdod lleol a Graft Projects i sicrhau arian ar gyfer ailddatblygu’r adeilad hanesyddol allweddol hwn - cyflawniad ffantastig gyda bod yr eglwys wedi bod yn adfail ers cymaint o amser.

“Bu Graft yn sympathetig i nodweddion hardd yr adeilad gan sicrhau fod ei gymeriad yn parhau a chafodd pob un fflat ei orffen i’r safon uchaf,” ychwanegodd.

“Bu’r Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn llwyddiant ysgubol ym Merthyr Tudful, gan greu dros 100 o swyddi, cyflenwi nifer o unedau tai’r farchnad fforddiadwy ac ailddechrau defnyddio safleoedd adfeiliedig allweddol ac adeiladau rhestredig fel yr un hwn.”

• Mae’r fflatiau ar gael i’w rhentu bellach: mae fflat un ystafell wely yn costio o £395 i £490 am fis calendr, a fflat dwy ystafell wely yn costio £550 am fis calendr. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Emma yn Bidmead & Cook ar 01685 388106.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni