Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymateb enfawr i’r arolwg ar ailagor twnnel

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Ebr 2020
Abernant Tunnel

Mae ymgynghoriad yn gofyn i drigolion Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf a hoffent weld Twnnel Abernant yn ailagor, wedi cael ymateb enfawr.

Cwblhaodd bron i 800 o bobl arolwg ar-lein y Cynghorau ar gynlluniau i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y ddwy dref, gan gynnwys y posibilrwydd o ailagor y twnnel segur ar gyfer cerdded a seiclo.

Gan fesur 1.4 milltir, mae twnnel Abernant yn un o dwneli rheilffordd hiraf Cymru. Pe bai’n cael ei ailagor, gallai ddarparu llwybr seiclo uniongyrchol di-draffig o tua phedair milltir rhwng y ddwy ganolfan drefol, gan leihau’r siwrnai bresennol o tua thair milltir.

Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda’i gilydd gyda’r nod o hwyluso’r siwrnai i’r bobl hynny sy’n teithio rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful am resymau’n ymwneud â’u gwaith, addysg, siopa ac adloniant.

Roedd ymatebwyr yr arolwg yn arbennig o frwdfrydig ynghylch y manteision posibl o ran ymarfer corff yn ogystal â diogelwch y llwybr. Dyma rai o’r sylwadau a ddaeth i law:

“Llai o draffig, mwy o ymarfer corff. Mae’n syniad gwych agor y twneli i ddefnyddwyr heini - mae angen mwy o hyn yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn gweithio rhwng y Cymoedd, nid dim ond lawr i Gaerdydd. Sdim amheuaeth ei fod yn beth da yn fy marn i.

“Byddai’r twnnel yn nodwedd wych i’r Cymoedd a byddwn yn ei ddefnyddio ar gyfer rhedeg a seiclo, nid dim ond i deithio rhwng y ddwy dref.

“Oni bai eich bod yn ifanc neu’n hynod ffit, yr unig opsiynau cerdded neu seiclo yw i fyny ac i lawr y cwm. Byddai agor y twnnel yn fendigedig.

“Rwy’n credu y byddai agor y twnnel yn lleddfu’r traffig sy’n cynyddu o hyd ar ffordd beryglus Baverstocks. Rwy’n seiclwr brwd ac yn dad i blentyn saith oed sy’n dwlu ar ei feic. Rydyn ni’n caru seiclo gyda’n gilydd ond rwy’n gwneud yn siŵr ein bod ni ond yn seiclo ar rwydweithiau diogel fel Taith Taf. Byddai’r twnnel yn ddelfrydol, gan ei fod i ffwrdd o unrhyw draffig.”

Disgrifiodd rhai ymatebwyr y twnnel hefyd fel ased treftadaeth ac atyniad posibl i dwristiaid:

“Rwy’n credu nad oes gan y Cymoedd lawer i’w gynnig i bobl ers dyddiau’r diwydiannau trwm, heblaw am eu tirwedd ragorol a’u treftadaeth aruthrol. Dylem wneud pob dim o fewn ein gallu i warchod a manteisio ar ein treftadaeth. Rwy’n credu y byddai’r twnnel yn atyniad gwych i dwristiaid.

“Byddai hyn yn gyfle gwych i annog mwy o bobl o bob oed i fwynhau tirwedd ardderchog ein Cymoedd. Hefyd, byddai cerdded, rhedeg neu seiclo ar hyd llwybr diogel a hardd o Aberdâr i Ferthyr yn weithgaredd rhad ac am ddim. Mae’n gyfle delfrydol i rannu hanes ein Cymoedd yn y ddwy gymuned ac i groesawu ymwelwyr newydd o bell ac agos.

“Byddai’n wych gweld y twnnel ar agor unwaith eto er mwyn i’r cyhoedd gerdded a seiclo trwyddo. Mae’n hen bryd inni geisio arbed a defnyddio rhai o’n hen drysorau diwydiannol. Gwnewch y twnnel yn ddiogel, gyda goleuadau solar drwyddo draw, a gadewch inni fwrw ymlaen â’r cynllun. Byddwn wrth ein boddau!”

Dyluniwyd y strwythur gan Isambard Kingdom Brunel ac fe’i hadeiladwyd fel rhan o’r gwasanaeth rheilffordd rhwng Merthyr Tudful a Chastell-nedd ym 1853, a rhedodd y trên olaf drwyddo ym 1962.

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad ychwanegol o £60m ar gyfer teithio llesol ledled Cymru dros dair blynedd. Gyda chefnogaeth Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru (LTF), comisiynwyd Sustrans Cymru i gynnal astudiaeth ddatblygu er mwyn edrych ar gyflwr y twnnel ynghyd â’i gostau cynnal a rhedeg posibl a’i berchnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, CBS Merthyr Tudful, mai dyma oedd yr ymateb a ddisgwyliwyd i’r arolwg.

Ychwanegodd, “Roedden ni’n gwybod bod preswylwyr yn gyffrous ynghylch ailagor y twnnel, felly roedden ni’n meddwl y byddent yn cymryd rhan. Y camau nesaf fydd edrych ar yr holl sylwadau, cadarnhaol a negyddol, ac yna cynnal dadansoddiad pellach o’r costau cynnal a rhedeg a llunio cynllun busnes manwl llawn.

“Mae’n ymddangos bod y consensws o blaid ailagor yn fawr iawn, ond mae yna nifer o ffactorau i’w hystyried, gan gynnwys y costau cychwynnol a pharhaus. Cyn gynted ag y bydd gennym syniad cliriach o’r cynlluniau ymarferol, byddwn yn adrodd yn ôl.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni