Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth bwysig i gyflogwyr ar ôl i staff brofi'n positif ar gyfer coronafeirws

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Ion 2021
public health wales (1)

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig i gyflogwyr ynghylch staff a brofodd yn bositif ar gyfer coronafeirws.

Mae'n dilyn adroddiadau fod nifer uchel o gyflogwyr yn gofyn am ganlyniad prawf negyddol cyn bo staff - sydd wedi cwblhau eu cyfnod hunanynysu ar ôl profi'n bositif ar gyfer Covid-19 - yn dychwelyd i'r gweithle.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Os bydd gweithiwr yn profi'n bositif ar gyfer Covid-19, mae gofyn iddynt hunanynysu am 10 diwrnod o'r dyddiad maent yn datblygu symptomau (neu o ddyddiad eu prawf, os nad oes ganddynt symptomau).

"Gall y gweithiwr ddychwelyd i'r gweithle ar yr 11eg diwrnod ar ôl datblygu symptomau (neu o ddyddiad eu prawf, os nad oes ganddynt symptomau) cyn belled â'u bod nhw'n teimlo'n iach, ac nad ydynt wedi profi gwres ers 48 awr.

""Er ei fod yn arferol ar gyfer rhai mathau o haint, nid oes gofyn am ganlyniad prawf negyddol cyn i'r gweithiwr ddychwelyd i'r gweithle ar gyfer Covid-19.

"Nid yw Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori ail gynnal profion 90 diwrnod ar ôl derbyn canlyniad prawf positif, oni bai fod symptomau Covid-19 newydd yn datblygu.  

"Mewn rhai achosion, mae pobl wedi parhau i brofi'n positif am nifer o wythnosau ar ôl profi'n bositif ar gyfer y feirws y tro cyntaf, oherwydd bod darnau bach o'r feirws yn aros yn y trwyn a'r gwddf am nifer o wythnosau ar ôl yr haint. Fodd bynnag, nid yw'r unigolion hyn bellach yn heintus i bobl eraill. Felly, byddai ail gynnal profion yn gallu arwain at absenoldeb diangen o'r gwaith, yn sgil cyfnod pellach o hunanynysu.

"Byddai peidio â gadael aelod o staff yn ôl i'r gweithle'n niweidiol o ran eu cyflog a'u llesiant meddyliol. Mae pecyn cefnogi'r Llywodraeth i'r bobl hynny ar incwm isel ar gael ar gyfer y cyfnod hunanynysu sy'n ofynnol yn gyfreithiol yn unig. Gallai hyn ddylanwadu'n niweidiol ar lesiant y gweithiwr, yn ogystal â'u teuluoedd.

Am ragor o wybodaeth a chyngor, ewch i wefan Cymru Iach ar Waith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni