Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynnydd mewn achosion Coronavirus

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Medi 2020
default.jpg

Yn dilyn y camau ychwanegol gan iechyd y cyhoedd yn awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i gyfyngu lledaeniad  Coronavirus, mae’r asiantaethau sy’n gyfrifol am reoli’r cynnydd mewn achosion wedi diolch i’r cymunedau am eu hymateb a’u hymdrechion parhaus. Maent yn apelio unwaith yn rhagor i gymunedau gadw at ganllawiau iechyd y cyhoedd.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiad amlasiantaethol:

“Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethpwyd apêl brys i gymunedau awdurdodau lleol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i fabwysiadu camau iechyd cyhoeddus newydd ac ychwanegol. 

“Heddiw, rwyf unwaith yn rhagor yn apelio ar y cymunedau hynny i barhau i ymddwyn yn yr un modd. Peidiwch â dinistrio’r gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn ystod y diwrnodau diwethaf.   

“Rwyf am ddiolch i’r cymunedau am bopeth y maent wedi eu gwneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf er mwyn cyfyngu lledaeniad y firws. Rydym yn dechrau gweld gwahaniaeth mewn ymddygiad ac rwy’n ddiolchgar i bawb am wneud pob dim i’w cadw’u hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymdogion yn ddiogel.

“Gallai tywydd cynnes a braf yr wythnos hon fod yn demtasiwn i gynnal parti neu gwrdd â ffrindiau neu gydnabod. Peidiwch â chael eich temtio i wneud hynny a pharhewch i gydweithio â ni gan gydymffurfio â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol fel y gallwn ddiogelu pobl hŷn a bregus rhag Coronavirus. 

“Rydym yn dechrau gweld niferoedd bychain o bobl sydd â Coronavirus yn cael eu derbyn i ysbytai, ledled ardal Cwm Taf. Os na fyddwn yn glynu at reoliadau iechyd y cyhoedd, bydd y niferoedd yma’n cynyddu yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae hyn yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei weld yn Ewrop a’r hyn sydd yn wybyddus am y firws a’r modd y gall ledaenu’n gyflym o achosion yn y gymuned i achosion mewn ysbytai. 

“Mae Awdurdodau Lleol yn parhau i fonitro a gweithredu lle y mae angen gwneud hynny er mwyn sicrhau fod POB busnes a safle’n cydymffurfio â rheoliadau COVID-19 ac rydym yn barod yn gweithredu er mwyn sicrhau fod archfarchnadoedd mawr, siopau manwerthu a safleoedd trwyddedig yn cydymffurfio â’r Rheoliadau. Mae Heddlu De Cymru yn parhau i gymryd camau gorfodi ac yn dilyn rheoliadau Cymru Gyfan ar gyfer covid-19 a hynny ar y cyd â phreswylwyr a thimau iechyd yr amgylchedd y Cyngor.  

“Mae Hysbysiadau Gwelliannau wed cael eu cyflwyno’n barod i nifer o safleoedd ledled Rhondda Cynon Taf yn dilyn methiannau i gydymffurfio â rheoliadau COVID-19. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i fethu â chynnal pellter cymdeithasol a darparu hylif diheintio dwylo a glanhau.   

“Atgoffir y cyhoedd i beidio cyfranogi mewn gweithgaredd na mynd i mewn i safle busnes, ardal nac unrhyw safle arall os nad ydynt yn teimlo eu bod yn cydymffurfio. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb personol i reoli’r lledaeniad a chynorthwyo i Gadw Cymru’n Ddiogel.”  

Mae gan y cyhoedd ran allweddol yn rhwystro lledaeniad Coronavirus drwy gydymffurfio bob amser â rheolau ymbellhau cymdeithasol - cadw dau fetr ar wahân - golchi dwylo’n gyson â sebon neu ddefnyddio diheintydd alcohol, gweithio o gartref, os oes fodd gwneud hynny a defnyddio gorchudd wyneb a hynny’n unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru. 

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu’n datblygu symptomau fel peswch, tymheredd uchel neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogl, mae’n rhaid i chi archebu prawf ar gyfer coronavirus, ar unwaith er mwyn cynorthwyo i reoli lledaeniad yr haint.

Dylai pobl sy’n cael eu profi’n bositif ar gyfer Covid-19, hunan-ynysu am 10 diwrnod.  

Mae’r camau ychwanegol yn cynnwys gofyn i bobl gyfyngu ar eu defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol yn unig fel addysg, gwaith, apwyntiadau meddygol hanfodol a siopa am fwyd.

Cynghorir pobl leol hefyd na ddylent ymweld â chartrefi gofal oni bai ei fod yn ymweliad ar ddiwedd bywyd. Mewn achosion o’r fath, bydd angen gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol llawn.

Mae’r camau ychwanegol yn dod i rym yn sgil gwaith Tîm Rheoli Digwydiad aml-asiantaethol sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac awdurdodau lleol Merthyr a Rhondda Cynon Taf.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau