Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Rhaglen Ysbrydoli i Weithio
- Categorïau : Press Release
- 01 Mai 2020

Ydych chi'n 16-24 oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd?
Os felly, mae’r Rhaglen Ysbrydoli i Weithio (y Rhaglen) yn dal i weithredu yn ystod y cyfnod anodd hwn ac yn cefnogi unrhyw un rhwng yr oedrannau hynny sy'n chwilio am gyfleoedd cyflogaeth neu hyfforddiant.
Mae’r Rhaglen yn brosiect a ariennir gan yr ESF a gallwn ni’ch cefnogi chi neu’ch cyfeirio chi at sefydliadau perthnasol eraill, gan ddibynnu ar eich anghenion o ran cymorth neu’r man lle rydych chi'n byw.
Gallwn gynnig cefnogaeth i chi gyda chwilio am swydd, llenwi ffurflenni cais, ysgrifennu neu ddiweddaru’ch CV, rhoi arweiniad i brosiectau sy’n cefnogi’ch iechyd a’ch llesiant, yn ogystal â chynnig hyfforddiant ar-lein am ddim ar:
- Hylendid a Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo L2;
- Hyfforddiant Codi a Chario yn unol â Maes Llafur L2 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) a Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch y DU.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Lesley Jones ar 07784360847 trwy alwad ffôn neu neges destun, neu gyrrwch e-bost ataf fi yn Lesley.jones@merthyr.gov.uk
Mae’r Rhaglen yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm.
Y tu allan i’r oriau hyn, byddwn yn codi’r negeseuon ffôn ac e-bost ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn yn ystod y diwrnodau gwaith dilynol.