Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adeiladu 70 o gartrefi ar safle adeilad hen ysbyty tirnodol

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Ion 2021
St Tydfil's development

Mae adeilad sy’n dirnod ym Merthyr Tudful am gael ei drawsnewid a’r safle ei estyn i fod yn ddatblygiad ‘cyffrous’ i ddarparu 70 o gartrefi, sy’n fawr eu hangen.

Caiff hen safle Ysbyty Santes Tudful yn Stryd Thomas Uchaf ei floc mynediad Rhestredig Graddfa II ei drawsnewid a’i estyn i ddarparu saith fflat ac un tŷ. Bydd gweddill y safle yn cael ei ddatblygu i ddarparu cymysgedd o fflatiau, byngalos, tai teras, tai pâr a thai ar wahân.

Mae Datblygiadau Santes Tudful wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad a gaiff ei adeiladu fel menter ar y cyd gyda Chymdeithas Tai Merthyr Tudful, a bydd yn darparu 39 o dai marchnad agored a 31 o dai fforddiadwy i’w rhentu.

Yn ogystal â sicrhau bod yr adeilad ‘godidog’ yn goroesi, bydd y prosiect hefyd yn creu ardal gadwraeth bioamrywiaeth. Caiff coed cynhenid eu plannu yno, ynghyd â glaswelltir a fydd yn gyfoeth o rywogaethau, gosodir blychau adar ac ystlumod, ac ‘hibernacwlwm’ (lloches i anifeiliaid) a man clwydo i’r ystlum pedol fwyaf.

Adeiladwyd Ysbyty Santes Tudful ym 1853 ond fe’i caewyd yn 2012. Dymchwelwyd y rhan fwyaf ohoni bedair neu bum mlynedd yn ôl, ac eithrio’r bloc mynediad – a oedd yn rhan o’r wyrcws undeb gwreiddiol – a’r rhan atodol, na chaiff ei dymchwel o dan y cynlluniau.

“Er bod angen mawr am atgyweirio’r bloc mynediad, mae’n parhau i fod yn adeilad arddull Gothig wedi ei addurno’n odidog,” dywedodd adroddiad y swyddog i’r Cyngor. “Mae’r talcen dau lawr ymestynnol nodedig gyda’r pedair ffenestr fawr olau â threswaith addurnedig, yn darparu mynedfa amlwg a thrawiadol.”

Hefyd, oddi fewn i’r tiroedd ceir cerflun a phlinth Rhestredig Graddfa II o Syr William Thomas Lewis, Barwn 1af Merthyr (1837-1914), diwydiannwr glo a anwyd yn lleol.

Dywedodd Huw Morgan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau gyda Datblygiadau Santes Tudful: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu safle Ysbyty Santes Tudful.

“Mae’r cynllun cyffrous hwn yn cynnwys 62 o gartrefi newydd eu hadeiladu; ohonynt, bydd 31 yn gartrefi fforddiadwy ar ran Cymdeithas Tai Merthyr Tudful. Cafodd y cynllun ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol gydag ystyriaeth ofalus i bryderon technegol, yn cynnwys asedau treftadaeth, ecoleg, ystyriaethau topograffi, dylunio ac amwynder ac effaith y briffordd.”

Dywedodd Karen Courts, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Merthyr Tudful: “Rydym yn ymroddedig i adfywio cymunedau ac rydym ni’n gyffrous ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Datblygiadau Santes Tudful a CBSMT ar y datblygiad hwn i ddod â chartrefi fforddiadwy, mawr eu hangen, i’r fwrdeistref.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae ein Tîm Adfywio’n gweithio gyda’r datblygwr ar y safle i gefnogi gwireddu’r prosiect hwn. Bydd y datblygiad yn sicrhau defnydd hir dymor o adeilad rhestredig a thrawsnewidiad sympathetig ohono a fydd yn sicrhau y bydd yn goroesi.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Cymdogol, y Cynghorydd David Hughes: “ Dylid nodi y bydd bron i hanner y tai yn fforddiadwy ac yn darparu cartrefi newydd mawr eu hangen i’r fwrdeistref sirol. Bydd y datblygiad hefyd yn gwneud y defnydd gorau posibl o dir llwyd diffaith mewn lleoliad sy’n agos at ganol y dref, gorsafoedd bws a rheilffordd, ysgolion, y Coleg ac amrywiol wasanaethau lleol eraill.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni