Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arweinydd yn dychwelyd i’r ysgol i ddysgu am Ddewin Oz!

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Ion 2021
Troedyrhiw School

Bore ’ma, gwnaeth Arweinydd y Cyngor ddysgu sut beth yw addysg ar-lein i ddisgyblion wrth iddi brofi gwers fyw ar gyfer un o’n hysgolion cynradd.

Gwahoddwyd y Cynghorydd Lisa Mytton, sydd hefyd yn Aelod Cabinet dros Ddysgu, gan Ysgol Gynradd Troedyrhiw i gymryd rhan mewn gwers ac ymunodd â dosbarth Blwyddyn 3 dan ofal Ms Charles.

“Gwnaeth y plant a minnau ddarganfod fod hen Wrach Gas o’r Gorllewin ar ôl gwraig o’r enw Dorothy a’i chi Toto. Daeth y wrach i’r golwg, a doedden ni methu credu’r peth!

“Penderfynodd y plant yn sgil y ffaith eu bod wedi dysgu sut i fod yn ohebwyr newyddion yn ddiweddar, fod angen iddyn nhw ysgrifennu adroddiad newyddion am hyn a chreu poster ‘Yn Eisiau’ i rybuddio Dorothy!”

Gofynnodd Ms Charles a Ms Callan gwestiynau i’r dosbarth am sut y bydden nhw’n mynd ati a dywedodd y plant bod angen iddyn nhw ddefnyddio strwythur, disgrifio’r Wrach gan ddefnyddio ansoddeiriau, a hefyd defnyddio penawdau trawiadol, geiriau disgrifiadol a chyflythrennu. 

“Roedd yn gyfle gwych i mi weld y rhyngweithio hwn, ac roedd pob plentyn yn ymddiddori ac yn bihafio mor dda yn ystod cofrestru’r bore, ac wrth ddefnyddio Teams gan fudo lleisiau a rhoi dwylo i fyny,” dywedodd y Cynghorydd Mytton.

“Mae wedi bod yn gyfnod caled i bawb, felly roeddwn i am fanteisio ar y cyfle hwn nid yn unig i ddiolch i Ms Charles a Ms Callan a disgyblion Troedyrhiw, ond hefyd ein holl staff addysgu, Cynorthwywyr Cymorth Dysgu, rhieni sy’n ceisio helpu gyda dysgu yn y cartref ac yn olaf, ond nid lleiaf wrth gwrs – y plant.

“Daliwch ati gyda’r gwaith da bawb – rydych chi’n gwneud yn wych!”

 

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni