Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dysgu am adeiladu fel chwarae plant i ddisgyblion

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Tach 2019
St Mary's School diggers

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Caedraw, sydd union gyferbyn â safle’r orsaf newydd, wedi derbyn micro gloddwyr a thryciau tipio oddi wrth y prif adeiladwr, Morgan Sindall.

Aeth y plant ati ar unwaith i roi cynnig ar y ‘cerbydau’ o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Prosiect Ross Williams, Arweinydd y Cyngor Bwrdeistref y Cynghorydd Kevin O’Neill a’r Aelod Cabinet Dros Adfywio a Thai y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Rydym yn deall fod plant yn y dosbarthiadau iau yn dysgu drwy chwarae, ac roeddem am wneud rhywbeth sy’n cefnogi hyn ac yn cysylltu â’n prosiect,” dywedodd Ross.

“Mae’r peiriannau tegan yn bennaf ar gyfer hwyl, ond mae eu swyddogaeth hefyd yn un ddefnyddiol addysgiadol wrth gyflwyno’r disgyblion i fyd adeiladu. Roedd yn syndod fod rhai ohonynt eisoes yn gwybod y gair ‘digger’ – er mai dim ond plant tair a phedair oed ydyn nhw!”

• Mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar safle cyn orsaf yr heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir iddi gael ei chwblhau yn hydref 2020.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £10m o arian i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol i ariannu’r orsaf, a fydd wedi ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, i gydweddu â’i buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni