Ar-lein, Mae'n arbed amser

Clefyd y Llengfilwyr – anogir busnesau i wirio eu systemau dŵr cyn ail agor

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Meh 2020
default.jpg

Fel mae cyfyngiadau yn cael eu llacio, atgoffir busnesau a pherchnogion i wirio gwaith cynnal a chadw ar eu hadeilad wrth ail agor.

Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd CBS Merthyr Tudful yn codi ymwybyddiaeth busnesau o gynnydd yn y risg o bresenoldeb bacteria Legionella o ganlyniad i systemau dŵr ddim yn cael ei defnyddio yn ystod y cyfnod clo.

Gellir dal clefyd y lleng filwyr trwy anadlu darnau bach o ddŵr sy’n cynnwys bacteria Legionella. Gall symptomau gynnwys, tymheredd, peswch sych a niwmonia.

Gall yr afiechyd fod yn fwy difrifol ymysg dynion dros 50 oed, pobl sy’n ysmygu a phobl gydag afiechyd yr ysgyfaint cronig ac imiwnedd isel. Nid yw yn heintio o berson i berson. .

Gofynnir i bobl sy’n berchen neu reoli adeilad ddilyn y cyngor diweddaraf gan Institiwt Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i leihau'r risg o legionella wrth iddynt baratoi i ail agor yn dilyn y cyfnod clo.

Mae’n cynnwys fflysio systemau dŵr oer gyda dŵr oer yn ogystal â chynyddu'r system dŵr poeth yn uwch na 60°C os yn bosib er mwyn galluogi diheintio thermol o’r system ddŵr poeth. Dylid gwneud hyn mewn perthynas ag asesiad risg llawn a gall gynnwys cynnal mwy o waith.

Dylid ystyried pob system ddŵr. Mae hyn yn cynnwys systemau dŵr mewn siopau, siopau trin gwallt, swyddfeydd, gwestai, campfeydd, clybiau chwaraeon, clybiau golf, tafarndai, clybiau, tai bwyta, adeiladau gwirfoddol ac unrhyw leoliad sydd gyda system ddŵr ac sydd ar gau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID) yn www.hse.gov.uk/legionnaires (Saesneg)

Gweler isod y ddolen i ddogfen ganllaw legionella : risgiau cyfnod clo ac ailagor yn ddiogel gan ISIA

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni