Ar-lein, Mae'n arbed amser
Wasg Mis Hanes LHDT+
- Categorïau : Press Release
- 01 Chwef 2021

Mae mis Chwefror yn Fis Hanes Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT). Thema eleni yw ‘Corff, Meddwl, Ysbryd’.
Nod y mis hwn o ddathlu yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac annog addysg bellach am faterion LHDTC+ gan ddod â rhagfarn i ben. Mae’n codi ymwybyddiaeth am faterion sy’n effeithio ar y gymuned LHDT, ac yn dathlu bywydau a hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn benderfynol o ddangos ei gefnogaeth i’r gymuned LHDT+ trwy godi baner cynnydd y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig heddiw (1 Chwefror).
Nod Baner Cynnydd, a ryddhawyd yn 2018, yw cynrychioli cynhwysiant a dilyniant. Mae’n cynnwys chwech streipen baner LHDT ochr yn ochr â’r baner traws a streipiau sy’n cynrychioli cymunedau ar yr ymylon. Mae’r rhain yn ffurfio saeth sy’n pwyntio tuag at y dde i gynrychioli symudiad ymlaen.
Heddiw, soniodd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Lisa Mytton, am y perthynas cryf rhwng cymunedau de Cymru a grwpiau LHDT ers Streic y Glowyr ym 1984-85.
Am ragor o wybodaeth a mynediad at adnoddau am ddim, ymwelwch â gwefan Mis Hanes LHDT+:
https://lgbtplushistorymonth.co.uk/