Ar-lein, Mae'n arbed amser
Goleuo’n mannau agored ar gyfer gweithgareddau
- Categorïau : Press Release
- 19 Hyd 2020
Ydych chi’n rhedwr, yn feiciwr neu’n gerddwr sy’n mwynhau defnyddio’r llwybrau a’r mannau agored ym Merthyr Tudful?
A fyddech yn eu defnyddio’n fwy aml yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf os byddent yn cael eu goleuo yn ystod y nos?
Mae Merthyr Heini yn trefnu cynllun peilot i ddefnyddio golau cludadwy yn y mannau hyn fel y gall y gymuned eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau corfforol.
Er mwyn i’r cynllun fod yn llwyddiannus, hoffem glywed teimladau’r preswylwyr ynghylch hyn a byddem yn gwerthfawrogi pum munud o’ch amser i gwblhau holiadur byr.