Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dirwy i Menyw Lleol am Dipio yn Anghyfreithlon
- Categorïau : Press Release
- 29 Tach 2019
Mae Sophie Giles, preswylydd o’r Gurnos a wnaeth ollwng gwastraff a losgwyd ger maes chwarae, wedi cael gorchymyn i dalu £1190 mewn dirwyon a chostau ar ôl i wybodaeth berthnasol amdani hi gael ei darganfod yn ystod archwiliadau i ddau ddigwyddiad o dipio anghyfreithlon yn Llwyn Bedwen, ac un yn Nhanffordd Pen y Dre.
Daeth swyddogion cyngor Merthyr o hyd i wybodaeth yn y gwastraff a oedd yn berthnasol i Ms Giles yn ystod archwiliadau ym mis Tachwedd 2018 ac ym mis Ebrill 2019.
Yn Llys Ynadon Merthyr ar 27 Tachwedd 2019, derbyniodd ddirwy o £360 a gorchymyn i dalu costau o £800 a thâl ychwanegol i’r dioddefwr o £30.
Derbyniodd Ms Giles gyfrifoldeb dros y tri achos o dipio yn anghyfreithlon, cyfaddefodd ei bod wedi gollwng a llosgi gwastraff yn Llwyn Bedwen, ac mewn perthynas â’r digwyddiad yn Nhanffordd Pen y Dre, dywedodd wrth y llys ei bod wedi talu preswylydd lleol i gymryd y gwastraff i ffwrdd, ond ei bod wedi methu â gwirio i ble yr oedd y gwastraff yn mynd nac a oedd wedi ei awdurdodi i gludo gwastraff.
Dywedodd Robert Barnett, Rheolwr Golygfa’r Stryd Gwasanaethau Cymdogol “Mae’r erlyniad hwn yn amlygu na fyddwn yn goddef tipio yn anghyfreithlon ac na fyddwn yn oedi cyn gweithredu i ddiogelu ein hamgylchedd yn erbyn tipio yn anghyfreithlon.
"Rydym yn cynghori’n gryf fod deiliaid tai yn gwirio pwy maen nhw yn ei ddefnyddio i gael gwared ar eu gwastraff. Mae ganddynt ddyletswydd gofal i sicrhau fod gwastraff yn cael ei waredu’n gywir a gellir eu herlyn am logi rhywun i gael gwared ar wastraff heb wneud y gwiriadau cywir ynghylch ym mhle fydd eu gwastraff yn diweddu.”