Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dynes leol yn cael ei herlyn am Dipio Anghyfreithlon ar Safle Hanesyddol.

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Maw 2020
Prosecuted 2

Cafodd Bethan Horley-Davies, preswylydd o’r Gurnos a dalodd ddynion i fynd â gwastraff ymaith a’r ddyddodi’n anghyfreithlon gerllaw Hen Waith Haearn Cyfarthfa ei herlyn am Drosedd Cyfrifoldeb Gofal.

Cafodd Ms Horley-Davies ei gwahodd gan Swyddogion o’r Cyngor i fod yn bresennol mewn cyfweliadau er mwyn eu cynorthwyo i archwilio achos o dipio anghyfreithlon ar safle’r hen waith haearn yng Ngorffennaf 2019. Fodd bynnag, methodd â bod yn bresennol ar fwy nag un achlysur. Aethpwyd â’r achos i Lys Ynadon Merthyr ar 26 Chwefror 2020, lle y plediodd Ms. Horley-Davies yn euog i drosedd cyfrifoldeb gofal o dan Adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Derbyniodd ddirwy o  £120 a’i gorchymyn i dalu costau gwerth £150 a gordal dioddefwr o £32.

Dywedodd Ms Horley-Davies wrth yr ynadon iddi dalu £30 i ddau ddyn fynd â’i gwastraff ond iddi fethu â gwirio i lle yr oedd ei gwastraff yn mynd ac os oeddent yn gludwyr gwastraff awdurdodedig.

Dywedodd Robert Barnett, y Rheolwr Gwasanaethau Stryd Cymdogol: “Dylai pobl fod yn ymwybodol y gallant orfod mynd i’r llys os ydynt yn defnyddio “gwasnaethau tipio anghyfreithlon ar Facebook’ sy’n esgus eu bod yn gwmniau dyddodi gwastraff cyfreithiol ac sydd yn dyddodi gwastraff yn anghyfriethlon ar ein strydoedd. Rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau ailgylchu’r cyhoedd a lle nad yw hynny’n bosibl, dylent sicrhau fod eu gwastraff yn cael ei ddyddodi’n briodiol gan gludwyr gwastraff awdurdodedig.” 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni