Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cewch fod yn Heliwr Fictoraidd y Pasg hwn ar lwybr anifeiliaid Cyfarthfa!
- Categorïau : Press Release
- 18 Ebr 2019

Dros benwythnos y Pasg bydd dau weithgaredd cyffrous newydd ar gyfer y gwanwyn yn dechrau ym Mharc Cyfarthfa ac fe fyddant yr un mor addysgiadol ag y byddant o hwyl - yn ogystal â bod am ddim!
Mae Llwybr Anifeiliaid Parc Cyfarthfa yn olrhain olion traed helwyr Oes Fictoria yn ystod adeg pan oedd teulu’r Crawshay yn byw yng Nghastell Cyfarthfa a phan oedd hela yn hobi poblogaidd.
Y tro hwn, fodd bynnag, ni chaiff unrhyw anifeiliaid eu niweidio!
Bydd pobl sy’n cyfranogi yn derbyn copi o’r gêm gardiau wreiddiol, sy’n rhestru’r anifeiliaid a oedd yn byw yn y parc, gan gynnwys y ffesant, petrisen, cyffylog a’r ysgyfarnog.
Bydd yr ‘helwyr’ yn mynd i mewn i’r coetir, dilyn y llwybr o gwmpas y pedwar llyn a gweld faint o anifeiliaid y byddant yn sylwi arnynt – mae naw ohonynt i gyd.
“Mae Parc Cyfarthfa yn gartref i lawer o wahanol rywogaethau o anifeiliaid, rai ohonynt yn rhywogaethau sydd mewn perygl dybryd ac sydd wedi eu gwarchod bellach fel y. Mae’r llwybr yn gyfle gwych i ddysgu beth oedd arfer byw yn y parc Mae’r llwybr yn gyfle gwych i ddysgu beth oedd arfer byw yn y parc,” dywedodd Gill Hampson, Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor Bwrdeistref Sirol.
“Yn ogystal â rhoi cyfle i gyfranogwyr fwynhau’r amgylchedd prydferth, bydd gêm gardiau llwybr yr anifeiliaid hefyd yn cynnwys llawer o ffeithiau diddorol am yr anifeiliaid ar y rhestr - gall iâr ffesant redeg at gyflymder o 10 milltir yr awr, er enghraifft. Felly mae yna lawer i’w ddysgu!”
Dywedodd Jane Sellwood, Rheolwr Gweithrediadau Llesiant Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful: “Mae wedi bod yn grêt cymryd rhan mewn prosiect sy’n ymgorffori elfen o ddysgu mewn gweithgaredd awyr agored. Ein gorchwyl yw cysylltu pobl â chyfleoedd a gobeithio y bydd y llwybr yn annog chwilfrydedd a dysgu am yr amgylchedd, yn ogystal â mwynhau’r llwybrau hyfryd sydd gan y parc i’w cynnig.”
Mae’r parc hefyd yn croesawu geocasio yn ôl – helfa drysor ddigidol ryngweithiol lawn hwyl a fydd hefyd yn rhoi cyfle i deuluoedd archwilio llwybr yr anifeiliaid neu weddill y parc.
Yr enw a roddir ar y trysor sydd angen ei ddarganfod i gwblhau’r gêm yw “geocache”. Gall y “caches” amrywio’n fawr mewn siâp a maint – o gynhwysydd modfedd o uchder i flwch mawr – a gallant fod yn guddiedig neu’n amlwg ar unwaith.
Er mwyn dod o hyd iddynt, mae angen i gyfranogwyr gofrestru ar-lein a rhoi’r cyfesurynnau i mewn i’w GPS/ffonau clyfar. Mae unedau GPS a mapiau llwybr yr anifeiliaid ar gael oddi wrth y dderbynfa yn Amgueddfa Cyfarthfa ac mae angen talu blaendal bach i’w defnyddio.
Ewch i www.cyfarthfa.com am ragor o wybodaeth.