Ar-lein, Mae'n arbed amser

Profi Torfol ym Merthyr Tudful yn parhau 14 -18 Rhagfyr yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Rhag 2020
default.jpg

 

Mae’r data diweddaraf yn dangos fod cyfraddau COVID-19 wedi cynyddu ymhellach ledled Cymru a Merthyr Tudful. Mewn ymateb i’r cynnydd hwn ac i gynorthwyo’n cymuned i leihau’r lledaeniad, rydym yn ymestyn profi torfol yn y gymuned ym Merthyr Tudful.

Dros yr 20 diwrnod diwethaf, mae pawb dros 11 mlwydd oed nad sydd â symptomau ac sydd yn byw, gweithio neu’n astudio ym Merthyr Tudful wedi cael cynnig prawf llif unffordd.

Dywedodd Alyn Owen, y Dirprwy Brif Weithredwr a Phrif Swyddog Profi Torfol yr Awdurdod Lleol: “ Yn ystod yr 20 diwrnod diwethaf, cafodd oddeutu 30,000 o brofion eu gwneud ar bobl asymptomatig. Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd o achosion positif yn ystod y diwrnodau diwethaf ac o achos hyn ac er mwyn cynorthwyo’n cymuned, byddwn yn parhau â’r ddarpariaeth yn y byr dymor.   

“Po fwyaf o bobl y byddwn yn eu profi, y mwyaf fydd y lleihad yn lledaeniad y firws.”

Trwy ddull amlasiantaethol o weithio, bydd y ganolfan brofi yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful yn awr ar agor am 5 diwrnod arall o Ddydd Llun 14 Rhagfyr hyd Ddydd Gwener 18 Rhagfyr fel y gall mwy o bobl gael eu profi. 

Dywedodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’r cynnydd yn dangos trosglwyddiad COVID yn ein cymunedau. Mae felly’n iawn ein bod yn parhau â’n hymdrechion fel yr ydym yn ei wneud yn y safle profi asymptomatig. Rydym yn disgwyl y bydd y cyfraddau, cyn hir yn disgyn ond mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i ymbellhau’n gymdeithasol, yn defnyddio gorchuddion wyneb ac yn sicrhau ein bod yn dilyn canllawiau hylendid.” 

Dywedodd Y Cynghorydd Kevin O’Neill, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae’r bobl sydd yn byw ac yn gweithio yn y Fwrdeistref Sirol wedi bod yn wych yn cyfranogi yn y rhaglen brofi torfol. Gan mai ni oedd y cyntaf yng Nghymru, roeddem yn ansicr sut y byddai’n gweithio ac o lefel y cyfranogiad.

“Gyda chymorth ein partneriaid Iechyd, Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth Ganolog, y Lluoedd Arfog ac yn fwy pwysig, ein staff, mae’r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiant mawr. 

“Mae Merthyr Tudful wedi dangos ei chryfder gan ddod ynghyd er mwyn lleihau lledaeniad y firws.  

“Rwyf wedi bod yn falch iawn o’r adborth cadarnhaol a hoffwn adeiladu arno ac annog y rheini nad sydd wedi cael eu profi i wneud hynny'r wythnos nesaf. Cofiwch fod angen i ni ddiogelu’n hunain ac eraill o’r firws.

“Mae achosion ledled Cymru’n cynyddu’n sylweddol. Dros yr wythnosau nesaf, hoffwn i bobl ymddwyn yn gall a pharhau i gydymffurfio â Chanllawiau Llywodraeth Cymru drwy leihau cysylltiad ag eraill, ymbellhau’n gymdeithasol, gwisgo mwgwd, golchi eu dwylo’n rheolaidd a defnyddio diheintydd dwylo.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn cadw Merthyr Tudful yn ddiogel.”

Os oes gennych chi symptomau (peswch diweddar, tymheredd uchel neu eich bod wedi colli’ch synnwyr blasu) dylech gael eich profi yn un o’r canolfannau profi – gallwch ddod o hyd i fanylion yma:

https://www.merthyr.gov.uk/resident/coronavirus-covid-19/testing/ neu ffoniwch 119 er mwyn archebu prawf.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni