Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dewch i gwrdd â Phenseiri Cynllun Cyfarthfa
- Categorïau : Press Release
- 27 Medi 2019
Gwahoddir preswylwyr Merthyr Tudful i fod yn bresennol mewn ‘bore stori’ gyda thîm penseiri sy’n dylunio’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer canolfan dreftadaeth ddiwydiannol ryngwladol Cyfarthfa.
Bydd Penseiri Ritchie (iRAL) yng Nghaffi REDHOUSE ddydd Gwener nesaf (4 Hydref), i wrando ar bobl leol yn rhannu eu hatgofion a ffotograffau ac unrhyw awgrymiadau am y cynigion.
Mae’r penseiri yn datblygu ‘Cynllun Cyfarthfa’ sef cynllun 20 mlynedd ar gyfer Castell a Pharc Cyfarthfa a’r ardal ehangach, gan gynnwys olion y ffwrneisi gwaith haearn.
Os hoffech gael sgwrs gyda’r tîm dros de neu goffi, yna dewch draw rhwng 10am a 1pm.