Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwilio am Aelodau Fforwm Mynediad Lleol

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Gor 2022
Local Access Forum

Ydych chi - neu ydych chi’n gwybod am rywun - a fyddai gyda diddordeb diogelu a sicrhau mynediad i fannau gwyrdd a hawliau tramwy Merthyr Tudful?

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn chwilio am geisiadau ac enwebiadau gan aelodau’r cyhoedd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Merthyr Tudful.

Mae 24 Fforwm Mynediad Lleol ar draws Cymru, a grëwyd yn y flwyddyn 2000 er mwyn cynghori awdurdodau lleol, Adnoddau Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru am fynediad y cyhoedd at dir ar gyfer mwynhad a hamdden awyr agored.

Wrth ddarparu cyngor, mae pob fforwm yn ystyried materion pwysig am reolaeth tir, ochr yn ochr â’r angen i amddiffyn harddwch naturiol yr ardal.

Mae’r Fforwm yn cynnwys rhwng 12 a 22 aelod sy’n cynrychioli:

  • Defnyddwyr tir hawl mynediad lleol
  • Perchnogion a deiliaid tir hawl mynediad lleol
  • Eraill sydd â diddordeb lleol

“Mae gan Ferthyr Tudful gyfoeth o ardaloedd gwyrdd y mae’r Cyngor yn awyddus ei ddiogelu ac i bobl ei fwynhau”, meddai Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Adfywio'r Cyng. Geraint Thomas.

“Rydym yn y broses o adolygu ein cynllun gwella hawliau mynediad a bydd aelodau’r Fforwm yn rhan greiddiol o hyn. Y bwriad yw i’r Fforwm gynghori swyddogion i sicrhau bod gwaith a wneir er lles defnyddwyr i allu gwneud ymarfer corff a lles meddylio ac yn gwella rheolaeth y rhwydwaith.”

Bydd aelodau yn ystyried pob math o fynediad, yn cynnwys marchogaeth, seiclo a gyrru oddi ar y ffordd, yn ogystal â mynediad ar droed.

Mae’r rheoliadau yn gofyn i’r Fforwm i gwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn, gyda chyfarfodydd eraill fel bo angen. Nid oes tal ond gall aelodau hawlio treuliau rhesymol.

Gall unrhyw un sy’n dymuno cael ei hystyried ar gyfer aelodaeth gael gwybodaeth bellach gan: Beth Jones, Swyddog Hawl Mynediad/ Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN, neu e-bostio: rightsofway@merthyr.gov.uk

Dyddiad cau ceisiadau yw Medi 3 2022.

Darllenwch y meini prawf yma a gwnewch gais yma.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni